Hepgoriadau tâl ar gyfer trwyddedu rhywogaethau
Mae ein cynllun codi tâl ar gyfer trwyddedu rhywogaethau yn cynnwys pedwar hepgoriad tâl. Byddwn yn parhau i ariannu'r pedwar hepgoriad tâl drwy gymorth grant.
Er mwyn i unrhyw un o’r hepgoriadau fod yn berthnasol i’ch cais, efallai y gofynnir i chi ddarparu tystiolaeth addas i gefnogi hyn.
Ni fyddwn yn codi tâl am drwydded rhywogaeth sy’n dod o dan un neu fwy o’r hepgoriadau hyn:
Hepgoriad A – cadwraeth, gwyddonol, ymchwil neu addysg
Ni fyddwn yn codi tâl am gais am drwydded rhywogaeth os ydych yn gwneud gwaith arolwg nid-er-elw neu os oes angen eich cais i ymchwilio i drosedd a amheuir.
Ni fydd unrhyw ffi yn berthnasol i gais am drwydded rhywogaeth os mai’r prif amcan yn ein barn ni yw:
- cadwraeth y rhywogaeth warchodedig honno neu ei chynefinoedd
- hybu dealltwriaeth wyddonol o rywogaethau a warchodir neu eu cynefinoedd
- addysg yn ymwneud â'r rhywogaeth warchodedig honno neu ei chynefinoedd
- cynnal neu wella bioamrywiaeth neu gydnerthedd ecosystemau
- cynnal a chadw neu warchod adeiladau hanesyddol neu henebion gwarchodedig
Hepgoriad B – diogelwch y cyhoedd, iechyd y cyhoedd, neu atal difrod difrifol i eiddo
Ni fydd unrhyw ffi yn berthnasol i gais am drwydded rhywogaeth os mai’r amcan yw:
- cynnal diogelwch y cyhoedd
- gwarchod iechyd y cyhoedd
- atal lledaeniad afiechyd
- atal difrod difrifol i eiddo, gan gynnwys cnydau, da byw a physgodfeydd
Hepgoriad C – trwyddedau yn ymwneud â rheoli rhywogaethau estron goresgynnol
Ni fydd ffi yn berthnasol i unrhyw drwydded a roddir o dan Ran 8 o Orchymyn Rhywogaethau Estron Goresgynnol (Gorfodi a Thrwyddedu) 2019.
Hepgoriad D – datblygiadau cartref a datblygiadau i ddarparu cyfleusterau a mynediad i bobl anabl
Ni fydd unrhyw ffi yn berthnasol i gais os ydych yn gwneud gwaith datblygu cartref cyfreithlon, fel y’i diffinnir yn Erthygl 2 o Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) 2012.
Yn ogystal, ni fydd unrhyw ffi yn berthnasol i drwydded ar gyfer trwydded rhywogaeth sy’n angenrheidiol i weithredu datblygiad (p’un a yw’n ddatblygiad cartref ai peidio) y mae’r awdurdod cynllunio lleol perthnasol wedi’i dderbyn fel un sy’n dod o dan yr eithriad yn Rheoliad 4 o Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ffioedd am Geisiadau, Ceisiadau Tybiedig ac Ymweliadau Safle) (Cymru) 2015.