Newid trwydded rhywogaeth: adroddiad diwedd trwydded
Gwiriwch a oes angen i chi lanlwytho adroddiad diwedd trwydded
Rhaid i chi lanlwytho adroddiad diwedd trwydded gyda'ch cais i newid trwydded rhywogaeth os yw'r canlynol i gyd yn berthnasol:
- mae gweithgarwch sy'n dod o dan y drwydded wedi'i gynnal
- mae eich trwydded wedi dod i ben, neu mae dyddiad diwedd y gwaith trwyddedig wedi mynd heibio (os yw eich trwydded yn cynnwys un)
- nid ydych chi wedi cyflwyno adroddiad diwedd trwydded ar gyfer y drwydded honno eto
Gallwch weld y dyddiadau hyn ar frig eich trwydded.
Dod o hyd i'r adroddiad diwedd trwydded cywir
Diweddarwyd ddiwethaf