Gorsaf Bŵer Cyfnodau Brig Pencoed - Tir i’r Gogledd o Felindre Road, Pencoed, Pen-y-bont ar Ogwr, CF35 5HT
Hysbysiad penderfyniad drafft: Gorsaf Bŵer Cyfnodau Brig Pencoed
Rhif y cais: PAN-026165
Math o gyfleuster rheoledig: Gosodiad – Adran 1.1 Gweithgareddau Hylosgi – Rhan A (1)(a) llosgi unrhyw danwydd mewn cyfarpar sydd â mewnbwn thermol graddedig o 50 megawat neu fwy. Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016
Lleoliad y cyfleuster rheoledig: Gorsaf Bŵer Cyfnodau Brig Pencoed, Tir i’r Gogledd o Felindre Road, Pencoed, Pen-y-bont ar Ogwr, CF35 5HT
Mae'r cais hwn ar gyfer trwydded amgylcheddol bwrpasol newydd er mwyn gallu gweithredu gorsaf bŵer cyfnodau brig. Pwrpas y gosodiad arfaethedig yw cynhyrchu ynni trydanol, y gellir ei storio a'i fwydo i'r Grid Cenedlaethol, yn ôl yr angen.
Rydym yn bwriadu rhoi’r drwydded. Byddwn yn rhoi trwydded yn unig os credwn na fydd llygredd sylweddol yn cael ei achosi ac os oes gan y gweithredwr y gallu i fodloni amodau’r drwydded. Bydd unrhyw drwydded y byddwn yn ei rhoi yn cynnwys amodau priodol i ddiogelu iechyd dynol a’r amgylchedd.
Gwybodaeth a osodwyd ar y gofrestr gyhoeddus ar gyfer ymgynghori:
- Trwydded ddrafft
- Dogfen penderfyniad drafft
Gallwch weld y drwydded ddrafft a’r ddogfen penderfyniad drafft yn rhad ac am ddim, ar ein cofrestr gyhoeddus ar-lein https://publicregister.naturalresources.wales. Gallwch chwilio am y dogfennau gan ddefnyddio manylion y cais, uchod. Neu gallwch wneud cais am gopi o’r wybodaeth gennym ni. Gallai hyn gymryd amser i’w brosesu a gall y byddwn yn codi ffi arnoch.
Os oes gennych unrhyw sylwadau anfonwch y rhain erbyn 25 Mehefin 2025.
Ebost: permittingconsultations@naturalresourceswales.gov.uk
Neu ysgrifennwch at:
Arweinydd Tîm Rheoleiddio Sylweddau Ymbelydrol a Gweithfeydd
Gwasanaeth Trwyddedu
Cyfoeth Naturiol Cymru
Adeiladau’r Goron
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ