Hysbysiad penderfyniad drafft: Mekatek Limited  

Rhif y cais: PAN-023495
Math o gyfleuster rheoledig: Storio a thrin gwastraff mewn cyfleuster â chapasiti i drin 50,000 tunnell y flwyddyn -  Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016, Atodlen 1 gweithfa, Rhan 1,

  • Adran 5.3 Gwaredu neu adfer gwastraff peryglus - Rhan A(1)(a)(vi) Gwaredu neu adfer gwastraff peryglus gyda chapasiti o fwy na 10 tunnell y dydd sy'n cynnwys un neu fwy o'r gweithgareddau canlynol - (ii) triniaeth ffisegol-gemegol. 
  • Adran 5.4 Gwaredu, adfer neu gyfuniad o waredu ac adfer gwastraff amheryglus - Rhan A(1)(b)(ii) Adfer neu gyfuniad o adfer a gwaredu gwastraff amheryglus gyda chapasiti o fwy na 75 tunnell y dydd sy'n cynnwys un neu ragor o'r gweithgareddau canlynol, a heb gynnwys gweithgareddau sy’n cael eu cwmpasu gan Gyfarwyddeb y Cyngor 91/271/EEC - (v) trin gwastraff metel mewn peiriannau rhwygo, gan gynnwys offer trydanol ac electronig gwastraff a cherbydau ar ddiwedd eu hoes a'u cydrannau.
  • Adran 5.6: Storio gwastraff peryglus dros dro neu dan y ddaear - Rhan A(1)(a) Storio gwastraff peryglus dros dro gyda chyfanswm capasiti o fwy na 50 tunnell tra'n aros am unrhyw un o'r gweithgareddau a restrir yn Adrannau 5.1, 5.2, 5.3.

Lleoliad y cyfleuster rheoledig: Mekatek Ltd, Unit C, Maerdy Industrial Estate, Rhymney, NP22 5PY

Mae hwn yn gais ar gyfer amrywiad sylweddol, i newid y drwydded cyfleuster gwastraff cyfredol yn weithfa trin gwastraff gyda chapasiti i drin 50,000 tunnell o wastraff y flwyddyn.

Rydym yn bwriadu rhoi’r drwydded.  Byddwn yn rhoi trwydded yn unig os credwn na fydd llygredd sylweddol yn cael ei achosi ac os oes gan y gweithredwr y gallu i fodloni amodau’r drwydded. Bydd unrhyw drwydded y byddwn yn ei rhoi yn cynnwys amodau priodol i ddiogelu iechyd dynol a’r amgylchedd.

Gwybodaeth a osodwyd ar y gofrestr gyhoeddus ar gyfer ymgynghori:

  • Trwydded ddrafft
  • Dogfen penderfyniad drafft

Gallwch weld y drwydded ddrafft a’r ddogfen penderfyniad drafft yn rhad ac am ddim, ar ein cofrestr gyhoeddus ar-lein. Gallwch chwilio am y dogfennau gan ddefnyddio manylion y cais, uchod. Neu gallwch wneud cais am gopi o’r wybodaeth gennym ni. Gallai hyn gymryd amser i’w brosesu a gall y byddwn yn codi ffi arnoch.

Os oes gennych unrhyw sylwadau anfonwch y rhain erbyn 19 Mai 2025

Ebost: permittingconsultations@naturalresourceswales.gov.uk

Neu ysgrifennwch at:

Arweinydd Tîm Rheoleiddio Sylweddau Ymbelydrol a Gweithfeydd
Gwasanaeth Trwyddedu
Cyfoeth Naturiol Cymru
Adeiladau’r Goron
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Diweddarwyd ddiwethaf