Rydym wedi derbyn cais am drwydded gan Woodlands Caravan Park Limited

Amrywiad sylweddol i drwydded amgylcheddol o dan Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016.

Rhif y cais: PAN-031264
Math o gyfleuster rheoledig: Gwaith Trin Cryno
Lleoliad y cyfleuster rheoledig: Woodlands Caravan Park, Pontarfynach, Aberystwyth, SY23 3JW
Cyfeirnod Grid Cenedlaethol yr ollyngfa: De: SN 74322 76934 a Gogledd: SN 74550 77400
Yr ardal ddyfrol sy’n derbyn: De: Afon Mynach a Gogledd: Rhagnant ddienw Afon Rheidol
Math o elifiant: Elifiant carthion triniedig
Cyfaint: De: 37 metr ciwbig y dydd, Gogledd: 35 metr ciwbig y dydd

Gallwch weld y dogfennau cais yn rhad ac am ddim, o'n cofrestr gyhoeddus ar-lein. Gallwch chwilio am y dogfennau gan ddefnyddio'r manylion cais uchod. Neu gallwch ofyn am gopi o'r wybodaeth gennym ni. Gall hyn gymryd amser i'w brosesu a gellid codi tâl am hynny.

Os oes gennych unrhyw sylwadau, anfonwch y rhain erbyn 6 Mawrth 2026.

E-bost: permittingconsultations@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Neu ysgrifennwch at:
Gwasanaeth Trwyddedu
Cyfoeth Naturiol Cymru
Swyddfeydd Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Cardiff
CF10 3NQ

Rhaid i ni benderfynu a ddylid caniatáu neu wrthod y cais.  Os ydym yn ei ganiatáu, mae’n rhaid i ni benderfynu pa amodau i’w cynnwys yn y drwydded.  Gallwch ddod o hyd i wybodaeth ynglŷn â sut yr ydym yn gwneud penderfyniadau yn ein Datganiad Cyfranogiad Cyhoeddus.

Diweddarwyd ddiwethaf