Mekatek Limited - Unit C, Maerdy Industrial Estate (South), Rhymney NP22 5PY
Rydym wedi derbyn cais am drwydded gan Mekatek Limited
Amrywiad sylweddol i drwydded amgylcheddol o dan Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016
Rhif y cais: PAN-023495
Math o gyfleuster rheoledig: Gweithfa
Adran 5.3 Gwaredu neu adfer gwastraff peryglus - Rhan A(1)(a)(vi) Gwaredu neu adfer gwastraff peryglus gyda chapasiti o fwy na 10 tunnell y dydd sy'n cynnwys un neu fwy o'r gweithgareddau canlynol - (ii) triniaeth ffisegol-gemegol.
Adran 5.4 Gwaredu, adfer neu gyfuniad o waredu ac adfer gwastraff amheryglus - Rhan A(1)(b)(ii) Adfer neu gyfuniad o adfer a gwaredu gwastraff amheryglus gyda chapasiti o fwy na 75 tunnell y dydd sy'n cynnwys un neu ragor o'r gweithgareddau canlynol, a heb gynnwys gweithgareddau sy’n cael eu cwmpasu gan Gyfarwyddeb y Cyngor 91/271/EEC - (v) trin gwastraff metel mewn peiriannau rhwygo, gan gynnwys offer trydanol ac electronig gwastraff a cherbydau ar ddiwedd eu hoes a'u cydrannau.
Adran 5.6: Storio gwastraff peryglus dros dro neu dan y ddaear - Rhan A(1)(a) Storio gwastraff peryglus dros dro gyda chyfanswm capasiti o fwy na 50 tunnell tra'n aros am unrhyw un o'r gweithgareddau a restrir yn Adrannau 5.1, 5.2, 5.3.
Lleoliad y cyfleuster rheoledig: Mekatek Limited, Unit C, Maerdy Industrial Estate (South), Rhymney NP22 5PY
Mae’r ymgeisydd wedi gwneud cais er mwyn:
- Cydgrynhoi'r gweithgareddau eithriedig (esemptiadau T4 a T9) o fewn yr ardal brosesu plastig a'r drwydded bresennol mewn un weithfa a ganiateir
- Cynyddu cyfanswm y gwastraff a brosesir gan y cyfleuster o 30,999 tunnell y flwyddyn i 50,000 tunnell y flwyddyn (200 tunnell y dydd)
- Cynnwys peiriannau a chyfarpar awtomataidd newydd
- Cynnwys codau Catalog Gwastraff Ewropeaidd ychwanegol.
Mae’r cais yn cynnwys disgrifiad o sut y gallai’r newidiadau arfaethedig effeithio ar y weithfa; y deunyddiau, y sylweddau a’r egni y bydd yn ei ddefnyddio a’i gynhyrchu; amodau ei safle; ffynhonnell, natur ac ansawdd ei allyriadau rhagweladwy a’u heffeithiau posibl, y technegau arfaethedig ar gyfer rhwystro, lleihau a monitro ei allyriadau a rhwystro ac adfer gwastraff; ac amlinelliad o’r prif ddulliau amgen o weithredu a ystyriwyd, os oes rhai o gwbl.
Gallwch weld y dogfennau cais yn rhad ac am ddim, o'n cofrestr gyhoeddus ar-lein. Neu gallwch ofyn am gopi o'r wybodaeth gennym ni. Gall hyn gymryd amser i'w brosesu a gellid codi tâl am hynny.
Os oes gennych unrhyw sylwadau anfonwch y rhain erbyn 15 Awst 2024
Ebost: permittingconsultations@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Neu ysgrifennwch at:
Gwasanaeth Trwyddedu
Cyfoeth Naturiol Cymru
Adeilad y Goron
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
Rhaid i ni benderfynu a ddylid caniatáu neu wrthod y cais. Os ydym yn ei ganiatáu, mae’n rhaid i ni benderfynu pa amodau i’w cynnwys yn y drwydded. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth ynglŷn â sut yr ydym yn gwneud penderfyniadau yn ein Datganiad Cyfranogiad Cyhoeddus.