Nuclear Restoration Services Limited - Safle Datgomisiynu Trawsfynydd, Blaenau Ffestiniog, Gwynedd, LL41 4DT
Rydym wedi derbyn cais am amrywiad gan Nuclear Restoration Services Limited.
Amrywiad i drwydded amgylcheddol o dan Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016
Rhif y cais: EPR/GB3835DE
Math o gyfleuster rheoledig: Atodlen 23, Rhan 2 para 11(2)(b) Gwaredu gwastraff ymbelydrol ar safle neu oddi yno; ac Atodlen 23, Rhan 2 para 11(4)(a) Derbyn gwastraff ymbelydrol at ddiben ei waredu
Lleoliad y cyfleuster rheoledig: Safle Datgomisiynu Trawsfynydd, Blaenau Ffestiniog, Gwynedd, LL41 4DT
Mae'r cais am amrywiad ar gyfer dymchwel, mewnlenwi a chapio Cyfadeilad Pyllau Trawsfynydd, sef set o adeiladau proffil isel rhwng dau adeilad yr adweithydd ar hen safle Gorsaf Bŵer Niwclear Trawsfynydd.
Mae’r cais yn cynnwys disgrifiad o sut y gallai’r newidiadau arfaethedig effeithio ar y weithfa; y deunyddiau, y sylweddau a’r egni y bydd yn ei ddefnyddio a’i gynhyrchu; amodau ei safle; ffynhonnell, natur ac ansawdd ei allyriadau rhagweladwy a’u heffeithiau posibl, y technegau arfaethedig ar gyfer rhwystro, lleihau a monitro ei allyriadau a rhwystro ac adfer gwastraff; ac amlinelliad o’r prif ddulliau amgen o weithredu a ystyriwyd, os oes rhai o gwbl.
Gallwch weld dogfennau’r cais drwy ffonio ein Canolfan Gwasanaethau Cwsmeriaid ar 0300 065 3000 neu ebostio permittingconsultations@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk i drefnu bod copi yn cael ei anfon atoch. Efallai y byddwn yn codi tâl i dalu am gostau copïo.
Os oes gennych unrhyw sylwadau anfonwch y rhain erbyn 6 Awst 2024.
Ebost: permittingconsultations@naturalresourceswales.gov.uk
Neu ysgrifennwch at
Arweinydd y Tîm Gosodiadau a Rheoleiddio Sylweddau Ymbelydrol
Gwasanaeth Trwyddedu
Cyfoeth Naturiol Cymru
Adeiladau'r Goron
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
Mae'n rhaid i ni benderfynu a ydym am ganiatáu neu wrthod y cais. Os byddwn yn ei ganiatáu, rhaid inni benderfynu sut y dylid cyhoeddi amodau'r drwydded.