Vale of Glamorgan Hotel Limited - Tynnu dŵr yn llawn
Deddf Adnoddau Dŵr 1991 (fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Dŵr 2003)
Hysbysir trwy hyn, yn unol ag Adran 37 Deddf Adnoddau Dŵr 1991 a Rheoliad 6 Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Tynnu a Chronni Dŵr) 2006 i gais gael ei wneud i Cyfoeth Naturiol Cymru gan Vale of Glamorgan Hotel Limited am drwydded lawn i dynnu dŵr o strata tanddaearol yng Nghyfeirnodau Grid Cenedlaethol ST 04407 79099 ac ST 04488 78694 The Vale Resort, ym Mharc Hensol, Hensol, Bro Morgannwg. Y cynnig yw tynnu dŵr yn ôl y cyfraddau a’r cyfnodau canlynol i’w defnyddio i ddyfrhau: 2.92 metr ciwbig yr awr, 70 metr ciwbig y dydd a 25,550 metr ciwbig y flwyddyn, drwy’r flwyddyn.
Gallwch weld y dogfennau cais yn rhad ac am ddim, o'n cofrestr gyhoeddus ar-lein, neu gallwch ofyn am gopi o'r wybodaeth gennym ni. Gall hyn gymryd amser i'w brosesu a gellid codi tâl am hynny.
Os ydych am ofyn am gopi neu dymunwch wneud sylwadau ynghylch y cais, rhaid ichi wneud hynny yn ysgrifenedig, gan ddyfynnu enw’r ymgeisydd a’r Cyfeirnod PAN-030832 wrth:
Cyfoeth Naturiol Cymru
Gwasanaeth Trwyddedu
Swyddfeydd Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Rhodfa’r Brenin Edward VII
Caerdydd
CF10 3NQ
Neu drwy e-bost i permittingconsultations@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk erbyn 13 Mawrth 2026.
Er mwyn cael rhagor o wybodaeth, gweler adran ymgynghoriadau ein gwefan neu ffoniwch ein Canolfan Gofal Cwsmeriaid 0300 065 3000 (Dydd Llun-Gwener, 9-5).