Owen Renewables Ltd - cais am drwydded lawn i dynnu dŵr
Deddf Adnoddau Dŵr 1991 (fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Dŵr 2003)
Hysbysir trwy hyn, yn unol ag Adran 37 Deddf Adnoddau Dŵr 1991 a Rheoliad 6 Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Tynnu a Chronni Dŵr) 2006 fod cais wedi cael ei wneud i Cyfoeth Naturiol Cymru gan Owen Renewables Ltd am drwydded lawn i dynnu dŵr o Afon Gwynant yng Nghyfeirnod Grid Cenedlaethol SH 67964 16962 yng Nghoed y Gribin, Dolgellau, LL40 1TS. Y cynnig yw tynnu dŵr yn ôl y cyfraddau a’r cyfnodau canlynol i’w defnyddio i gynhyrchu pŵer trydan dŵr: 3,960 metr ciwbig yr awr, 95,040 metr ciwbig y dydd a 34,689,600 metr ciwbig y flwyddyn, drwy’r flwyddyn.
Gwneir cais hefyd am drwydded i rwystro neu atal llif Afon Gwynant yn y lleoliad uchod. Diben y drwydded gronni dŵr yw caniatáu newidiadau i gored hanesyddol i reoli tynnu dŵr a sianel osgoi pysgod.
Gallwch weld y dogfennau cais yn rhad ac am ddim, o'n cofrestr gyhoeddus ar-lein. Neu gallwch ofyn am gopi o'r wybodaeth gennym ni. Gall hyn gymryd amser i'w brosesu a gellid codi tâl am hynny.
Os dymunwch ofyn am gopi o’r cais neu wneud sylwadau arno, rhaid ichi wneud hynny yn ysgrifenedig, gan ddyfynnu enw’r ymgeisydd a’r Cyfeirnod PAN-031893 a PAN-031894 i:
Cyfoeth Naturiol Cymru
Gwasanaeth Trwyddedu
Swyddfeydd Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Rhodfa’r Brenin Edward VII
Caerdydd
CF10 3NQ
Neu drwy e-bost i permittingconsultations@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk erbyn 19 Awst 2026.
Er mwyn cael rhagor o wybodaeth, gweler adran ymgynghoriadau ein gwefan neu ffoniwch ein Canolfan Gofal Cwsmeriaid 0300 0653000 (Dydd Llun-Gwener, 9yb-5yp).