Nuclear Restoration Services Limited - trosglwyddiad ar gyfer tynnu dŵr
Deddf Adnoddau Dŵr 1991 (fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Dŵr 2003)
Hysbysir trwy hyn, yn unol ag Adran 37 Deddf Adnoddau Dŵr 1991 a Rheoliad 6 Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Tynnu a Chronni Dŵr) 2006 i gais gael ei wneud i Cyfoeth Naturiol Cymru gan Nuclear Restoration Services Limited am drwydded i dynnu dŵr o Ffynhonnell Danddaerol Ddienw o Gwter Gwsg i’r De o Adeilad yr Adweithydd yng Nghyfeirnod Grid Cenedlaethol SH 69115 38092 ar gyfer ei drosglwyddo i Lyn Trawsfynydd yng Nghyfeirnod Grid Cenedlaethol SH 69383 38127, yn ôl y cyfraddau a’r cyfnodau canlynol: 9 metr ciwbig yr awr, 200 metr ciwbig y dydd a 70,000 metr ciwbig y flwyddyn, drwy’r flwyddyn.
Bydd y dŵr yn cael ei dynnu er mwyn ei drosglwyddo rhwng y ffynonellau cyflenwi y cyfeirir atynt isod heb ddefnydd rhyngol.
Gallwch weld y dogfennau cais yn rhad ac am ddim, o'n cofrestr gyhoeddus ar-lein. Neu gallwch ofyn am gopi o'r wybodaeth gennym ni. Gall hyn gymryd amser i'w brosesu a gellid codi tâl am hynny.
Os ydych am ofyn am gopi neu dymunwch wneud sylwadau ynghylch y cais, rhaid ichi wneud hynny yn ysgrifenedig, gan ddyfynnu enw’r ymgeisydd a’r Cyfeirnod PAN-031614 i:
Cyfoeth Naturiol Cymru
Gwasanaeth Trwyddedu
Swyddfeydd Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Rhodfa’r Brenin Edward VII
Caerdydd
CF10 3NQ
Neu drwy e-bost i permittingconsultations@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk erbyn 15 Gorffennaf 2026.
Er mwyn cael rhagor o wybodaeth, gweler adran ymgynghoriadau ein gwefan, neu ffoniwch ein Canolfan Gofal Cwsmeriaid ar 0300 0653000 (Dydd Llun-Gwener, 9yb-5yh).