Newminerals Ltd - trosglwyddiad ar gyfer tynnu dŵr
Deddf Adnoddau Dŵr 1991 (fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Dŵr 2003)
Hysbysir trwy hyn, yn unol ag Adran 37 Deddf Adnoddau Dŵr 1991 a Rheoliad 6 Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Tynnu a Chronni Dŵr) 2006 i gais gael ei wneud i Cyfoeth Naturiol Cymru gan Newminerals Ltd am drwydded i dynnu dŵr o strata tanddaearol o fewn yr ardaloedd canlynol sydd wedi’u ffurfio gan linellau syth rhwng y Cyfeirnodau Grid Cenedlaethol canlynol:
- Ardal A: ST 31823 84352, ST 31969 84457, ST 31987 84431, ST 31969 84418, ST 31965 84423, ST 31930 84398, ST 31936 84390, ST 31964 84351 ac ST 31870 84285; ac
- Ardal B: ST 32015 84425, ST 31993 84455, ST 31990 84454, ST 31982 84465, ST 31973 84458, ST 31969 84463, ST 32001 84486, ST 32004 84482, ST 31995 84475, ST 32004 84463, ST 32024 84435 ac ST 32026 84433.
Ar gyfer ei drosglwyddo i South Dock yng Nghyfeirnod Grid Cenedlaethol ST 31939 84555, yn ôl y cyfraddau a’r cyfnodau canlynol: 65 metr ciwbig yr awr, 510 metr ciwbig y dydd a 10,000 metr ciwbig y flwyddyn, drwy’r flwyddyn yn ystod y gwaith disbyddu dŵr.
Bydd y dŵr yn cael ei drosglwyddo ar gyfer dibenion disbyddu rhwng y ffynonellau cyflenwi y cyfeirir atynt uchod heb ddefnydd rhyngol.
Gallwch weld y dogfennau cais yn rhad ac am ddim, o'n cofrestr gyhoeddus ar-lein. Neu gallwch ofyn am gopi o'r wybodaeth gennym ni. Gall hyn gymryd amser i'w brosesu a gellid codi tâl am hynny.
Os ydych am ofyn am gopi neu dymunwch wneud sylwadau ynghylch y cais, rhaid ichi wneud hynny yn ysgrifenedig, gan ddyfynnu enw’r ymgeisydd a’r cyfeirnod PAN-034153 wrth:
Cyfoeth Naturiol Cymru
Gwasanaeth Trwyddedu
Swyddfeydd Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Rhodfa’r Brenin Edward VII
Caerdydd
CF10 3NQ
Neu drwy e-bost i permittingconsultations@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk erbyn 24 Rhagfyr 2026.
Er mwyn cael rhagor o wybodaeth, gweler adran ymgynghoriadau ein gwefan neu ffoniwch ein Canolfan Gofal Cwsmeriaid 0300 0653000 (Dydd Llun-Gwener, 9yb-5yp).