Eric Wright Water Limited - Tynnu Dŵr yn Llawn / Tynnu a Chronni Dŵr
Deddf Adnoddau Dŵr 1991 (fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Dŵr 2003)
Hysbysir trwy hyn, yn unol ag Adran 37 Deddf Adnoddau Dŵr 1991 a Rheoliad 6 Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Tynnu a Chronni Dŵr) 2006 i gais gael ei wneud i Cyfoeth Naturiol Cymru gan Eric Wright Water Limited am drwydded lawn i dynnu dŵr o strata tanddaearol o fewn yr ardal sydd wedi’i ffurfio gan linellau syth sy’n rhedeg rhwng Cyfeirnodau Grid Cenedlaethol SJ 08195 43648, SJ 08200 43647, SJ 08199 43642, SJ 08195 43641, ac SJ 08192 43644 yng Ngwaith Trin Dŵr Gwastraff Corwen, Corwen, Sir Ddinbych.
Y cynnig yw tynnu dŵr yn ôl y cyfraddau a’r cyfnodau canlynol i’w defnyddio i gael gwared o ddŵr yn ystod y gwaith adeiladu: 305.8 metr ciwbig yr awr, 7,339 metr ciwbig y dydd ac 1,438,444 metr ciwbig y flwyddyn, rhwng 09/09/2025 and 09/12/2025 yn gynhwysol.
Gallwch weld y dogfennau cais yn rhad ac am ddim, o'n cofrestr gyhoeddus ar-lein. Neu gallwch ofyn am gopi o'r wybodaeth gennym ni. Gall hyn gymryd amser i'w brosesu a gellid codi tâl am hynny.
Os ydych am ofyn am gopi neu dymunwch wneud sylwadau ynghylch y cais, rhaid ichi wneud hynny yn ysgrifenedig, gan ddyfynnu enw’r ymgeisydd a’r Cyfeirnod PAN-028902 wrth:
Cyfoeth Naturiol Cymru
Gwasanaeth Trwyddedu
Swyddfeydd Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Rhodfa’r Brenin Edward VII
Caerdydd
CF10 3NQ
neu drwy e-bost i permittingconsultations@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk erbyn 02/09/2025 fan bellaf.
Er mwyn cael rhagor o wybodaeth, gweler adran ymgynghoriadau ein gwefan https://naturalresources.wales/?lang=cy neu ffoniwch ein Canolfan Gofal Cwsmeriaid 0300 0653000 (Dydd Llun-Gwener, 9-5).