Dewch i wybod pa weithgareddau sydd angen trwydded forol

Pryd a oes angen Trwydded Forol?

Mae angen Trwydded Forol pan fo unrhyw weithgaredd trwyddedadwy fel y’i diffinnir yn adran 66 o Ddeddf Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009 yn cael ei wneud o fewn yr ardal drwyddedadwy forol.

Pa weithgareddau sy’n gofyn am Drwydded Forol?

Yn fras, mae angen Trwydded forol os bydd un neu fwy o’r gweithgareddau i’w cyflawni yn yr ardal drwyddedadwy forol:

  • Unrhyw adneuo neu symud deunydd neu sylwedd, drwy ddefnyddio cerbyd neu long. Nid yw adneuon neu symudiadau gyda llaw yn weithgareddau trwyddedadwy morol
  • Gwaith adeiladu, addasu neu wella (gan gynnwys gwaith sy'n hongian dros yr ardal drwyddedadwy forol a gwaith o dan wely'r môr, e.e. twneli, pontydd a phierau)
  • Llongau wedi’u suddo neu gynwysyddion sy’n arnofio
  • Carthu
  • Llosgi gwrthrychau
  • Adneuo a defnyddio ffrwydron
  • Cynaeafu neu dyfu anifeiliaid a phlanhigion dyfrol (gwymon neu bysgod cregyn)

Darllenwch mwy am Gweithgareddau risg isel Band 1 Trwyddedu Morol

Ble mae’r ardal drwyddedadwy forol?

Mae ardal drwyddedadwy forol Cymru yn cynnwys rhanbarth y glannau a rhanbarth alltraeth Cymru.  Mae rhanbarth y glannau yng Nghymru yn ymestyn 12 môr filltir tua’r môr o’r Cymedr Penllanw Llanw Mawr (MHWS) hyd at y ffin diriogaethol.  Mae’r rhanbarth alltraeth yng Nghymru yn ymestyn y tu hwnt i’r ffin diriogaethol i gynnwys pob ardal forol o fewn Parth Cymru.

Diffinnir yr ardal hon yn y Ddeddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir (adran 42) fel unrhyw ardal sy'n cael ei gorlifo ar lanw'r cymedr penllanw mawr, a dyfroedd pob aber, afon neu sianel, i’r graddau y mae’r llanw’n llifo ar lanw’r cymedr penllanw mawr. Mae'r ardal drwyddedadwy hefyd yn cynnwys dyfroedd mewn unrhyw ardal sydd wedi’i chau, boed yn barhaol neu bob hyn a hyn, gan glo neu ddulliau artiffisial eraill yn erbyn gweithrediad rheolaidd y llanw, ond y mae dŵr y môr yn cael ei achosi neu ei ganiatáu i lifo iddo, boed yn barhaus neu o bryd i'w gilydd, ac o'r hyn y caiff y dŵr môr ei achosi neu ei ganiatáu i lifo, boed yn barhaus neu o bryd i’w gilydd.

Sut ydym yn diffinio Cymedr Penllanw Mawr (MHWS)?

Nid ydym yn diffinio Cymedr Penllanw Mawr, ond yn gofyn i ymgeiswyr roi tystiolaeth gerbron os bydd ansicrwydd ynghylch yr union linell.

Gellir defnyddio llinellau ar fapiau OS fel canllawiau cyffredinol ond nid mewn modd diffiniol gan fod y cymedr penllanw mawr yn symud yn aruthrol dros amser, yn enwedig yn dilyn stormydd.

Un ffordd i ddangos y cymedr penllanw mawr yw trwy ddefnyddio data uchder y llanw yn y porthladd agosaf ac arolwg lefel y ddaear ar safle'r gweithiau.

Mae cymedr penllanw mawr y prif borthladdoedd ar gael ar y wefan NTPLS (ynghyd â'r trosiad o'r datwm lleol i uwchben datwm ordnans (AOD)).

Mae'n bosibl bod rhagor o ffigurau lleol o ran y cymedr penllanw mawr ar gael yn fasnachol o gwmpas Cymru a allai roi uchder mwy cywir. Wrth reswm, mae'n iawn i ddefnyddio'r rhain.

Pa weithgareddau sydd wedi’u heithrio rhag cael Trwydded Forol?

Efallai na fydd rhai o'r gweithgareddau yn gofyn am Drwydded Forol ac fe'u diffinnir fel rhai eithriedig.

Nodir y rhain yn Neddf Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009, Rhan 4, Pennod 2, er enghraifft, carthu a gwaredu cysylltiedig a awdurdodwyd o dan Ddeddfau lleol neu Orchmynion Harbwr - mae angen ystyried y rhain fesul achos.

Mae gweithgareddau eraill nad oes angen Trwydded Forol yn cael eu nodi yng Ngorchymyn Trwyddedu Morol (Gweithgareddau Eithriedig) 2011.

Cyfeiriwch at ein tudalen gweithgareddau sy’n eithriedig rhag cael Trwydded Forol i gael rhagor o fanylion.

Yn dal yn ansicr a oes angen Trwydded Forol arnoch chi?

Os ydych yn dal yn ansicr a oes angen Trwydded Forol ar eich gweithgaredd a bod angen i chi ddod atom i gael rhagor o arweiniad, rhowch y wybodaeth ganlynol gyda'ch ymholiad:

Manylion o’r gwaith i’w wneud, yn cynnwys:

  • A yw'r gwaith tua’r môr oddi wrth y Cymedr Penllanw Mawr ac yn Nyfroedd Tiriogaethol Cymru? Rhowch fap
  • A ddefnyddir cerbydau neu longau i wneud y gwaith?
  • Maint a graddfa'r gwaith?
  • Amser y flwyddyn y bydd y gwaith yn cael ei wneud?
  • A yw'r gwaith o fewn safle dynodedig?
  • A oes trafodaethau wedi'u cynnal gydag unrhyw swyddogaeth arall o Gyfoeth Naturiol Cymru o'r blaen? Pwy? Pryd?
  • Disgrifiad o'r gwaith, gan gynnwys dull i'w ddefnyddio

Gellir cysylltu â'r Tîm Trwyddedu Morol yn y cyfeiriad e-bost canlynol: marinelicensing@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Diweddarwyd ddiwethaf