Dewis sut i wneud cais am drwydded forol band 1
Gwneud cais gan ddefnyddio ein gwasanaeth newydd
Defnyddiwch y gwasanaeth hwn os ydych am wneud y canlynol:
- talu ar-lein gyda cherdyn wrth i chi wneud cais, neu dros y ffôn neu gyda throsglwyddiad banc ar ôl i chi wneud cais
- olrhain statws eich cais ar-lein
- gweld eich holl geisiadau band 1 newydd mewn un lle
Bydd angen i chi greu cyfrif i ddefnyddio'r gwasanaeth hwn.
Gwneud cais gan ddefnyddio ein gwasanaeth presennol
Mae defnyddio'r gwasanaeth presennol yn golygu:
- y bydd angen i chi dalu ar ôl i chi wneud cais, dros y ffôn neu gyda throsglwyddiad banc
- na allwch olrhain statws eich cais ar-lein
Diweddarwyd ddiwethaf