Mae'n rhaid i geisiadau gynnwys yr holl wybodaeth am y prosiect y gwneir cais amdano a'i effeithiau er mwyn bodloni gofynion y broses trwyddedu morol. Gallwn ond ystyried yr wybodaeth a ddarperir ynghyd â'r cais yn ystod asesiad cais trwydded forol.Felly, mae'n rhaid i chi sicrhau eich bod yn darparu gwybodaeth am y prosiect cyfan, a'i effeithiau, er mwyn bodloni gofynion y broses trwyddedu morol.

Mae yna ofynion penodol ar gyfer asesu prosiectau ar gyfer Asesiad o'r Effaith Amgylcheddol ac Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd a chaiff y rhain eu hesbonio isod.

Rhagor o wybodaeth am Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol a'r Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd mewn penderfyniadau trwyddedu morol.

Asesiad o'r Effaith Amgylcheddol ar gyfer prosiectau aml-gam

Mae tîm trwyddedu morol CNC yn awdurdod priodol mewn perthynas ag Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol, yn unol â Rheoliadau Gwaith Morol 2007. Ar gyfer prosiectau sy'n destun Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol, mae'n rhaid i'n penderfyniad trwydded forol gael ei wneud yn unol â'n penderfyniad yn yr Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol.

Mae’n rhaid i benderfyniad yr Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol gael ei wneud am eich prosiect cyfan; rhaid i hyn gynnwys yr holl asesiadau cronnus a thrawsffiniol. Nid yw'n bosib ystyried effeithiau rhan o'r prosiect a gwneud asesiad o weddill y prosiect ar ôl i gydsyniad gael ei roi. Felly, mae'n bwysig bod eich cais yn cynnwys yr holl wybodaeth berthnasol am gamau'r prosiect, ac asesiad o effeithiau posib pob cam, yn ogystal ag asesiad o'r prosiect cyfan.

Mae'n rhaid i ddogfennau'r cais gynnwys yr holl wybodaeth y mae ei hangen i ddod i benderfyniad yn yr Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol. Darllenwch ein canllawiau ar gwmpasu Asesiadau o’r Effaith Amgylcheddol am ragor o wybodaeth am yr hyn ddylai cael ei gynnwys mewn Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol. Bydd angen i'r manylion angenrheidiol fod yn benodol i’r achos a dylent fod yn gymesur â'r effeithiau niweidiol posib. Dylai'r rhesymau dros ddiddymu unrhyw effeithiau posib gael eu cyflwyno. Sylwer y gall hyd yn oed prosiectau bach gael effeithiau sylweddol o bosib. Dylech ystyried pa wybodaeth y mae ei hangen i'n galluogi i wneud penderfyniad mewn Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol.

Mae'r wybodaeth hon yn debygol o gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig, i'r canlynol:

  • Nodweddion a gwybodaeth sylfaenol am y derbynyddion – dylai gwybodaeth sy'n benodol i safle gael ei chasglu a'i chyflwyno ynghyd â disgrifiad o unrhyw ansicrwydd yn y data hwn. I ganfod rhagor o wybodaeth am yr arolwg sylfaenol, gweler ein canllawiau ar ddatblygu morol.
  • Disgrifiad o bob cam o'r prosiect, mewn digon o fanylder er mwyn gallu llunio asesiad ystyrlon.
  • Disgrifiad o'r effeithiau amgylcheddol sylweddol yn sgil pob cam.
  • Disgrifiad o sut bydd y prosiect yn datblygu rhwng camau.
  • Unrhyw fesurau y mae eu hangen i leihau, osgoi neu liniaru effeithiau niweidiol a achosir gan y prosiect, ar gyfer pob cam o'r prosiect. Os yw'r effeithiau'n ansicr, mae'n rhaid cynnig mesurau digonol a realistig i leihau, osgoi neu liniaru'r effaith sylweddol debygol uchaf. Efallai y bydd yn briodol ystyried rheoli addasol yn yr achosion hyn.

Mae'n debygol na fyddwch yn gallu asesu effeithiau posib camau diweddarach y prosiect yn hyderus. Yn yr achos hwn, mae'n rhaid i chi wneud asesiad o'r senario waethaf sy’n debygol, gan esbonio ansicrwydd yr asesiad a pham mae'r senario'n cynrychioli senario waethaf realistig.

Efallai y byddwch yn dymuno disgrifio amrywiaeth bosib yr effaith, ond mae'n rhaid disgrifio effeithiau senario waethaf debygol yn glir. Os nad oes modd diystyru effeithiau sylweddol, mae'n rhaid i chi gynnwys manylion mesurau addas, cyfiawnadwy a realistig sydd wedi'u dylunio i liniaru'r effeithiau hyn. Gall hyn gynnwys peidio â symud ymlaen i gamau diweddarach os nad oes modd lliniaru'n ddigonol fel arall.

Os bydd ansicrwydd sylweddol o hyd ynghylch effeithiau sylweddol posib y prosiect, am fod angen caffael gwybodaeth nad oes modd ei chasglu cyn cychwyn y prosiect, dylech ystyried a fydd rheoli’r effeithiau hyn yn addasol yn darparu mecanwaith addas ar gyfer sicrhau bod modd cael y lefel angenrheidiol o hyder ar gyfer yr effaith/effeithiau posib yn ystod cam penodol o'r prosiect.

Ein penderfyniadau yn ystod Asesiadau o’r Effaith Amgylcheddol

Mae'n rhaid i'n penderfyniad yn ystod Asesiad o'r Effaith Amgylcheddol gynnwys y canlynol mewn perthynas â'r dull ar gyfer prosiectau cam wrth gam:

  • Disgrifiad o ba dderbynyddion sy’n gofyn am y defnydd o gamau i ddatrys yr ansicrwydd amgylcheddol.
  • Disgrifiad manwl o bob cam o'r prosiect i lefel sy'n cynrychioli’r ddealltwriaeth gyfredol ar adeg y cais.
  • Disgrifiad o sut bydd y gweithgareddau yn y cam cyntaf, ac unrhyw gamau dilynol, yn helpu i ddatrys yr ansicrwydd amgylcheddol yn y camau diweddarach a sut caiff hyn ei reoli.
  • Unrhyw fesurau i osgoi, lleihau neu liniaru effeithiau sylweddol tebygol.

Mae'n ofynnol i ni wneud asesiad o effeithiau'r prosiect, a'r mesurau i osgoi, lleihau neu liniaru'r effeithiau hynny, yn ystod y broses benderfynu ar gyfer rhoi cydsyniad ar sail Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol. Nid yw'n bosib oedi’r gwaith o ystyried effeithiau posib, na chynnig mesurau lliniaru, i'r cam ar ôl y cydsyniad. Felly, mae'n rhaid i'r wybodaeth amgylcheddol a gyflwynwyd gynnwys manylion effeithiau amgylcheddol holl gamau'r prosiect, a mesurau digonol i liniaru effeithiau 'senario waethaf'.Lle dibynnir ar gynnal y prosiect gam wrth gam i leihau lefel gyffredinol y risg amgylcheddol, mae'n rhaid iddi fod yn glir sut caiff y defnydd o gamau'r prosiect ei ddefnyddio i ddiddymu neu leihau'r risg o effeithiau amgylcheddol.

Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd ar gyfer prosiectau aml-gam

Mae prosiectau y mae ganddynt y potensial i achosi effeithiau ar safleoedd Ewropeaidd yn gofyn am gwblhau Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd cyn dyrannu trwydded forol. Gall trwydded forol gael ei dyrannu dim ond os casgliad yr Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd yw na fydd y prosiect cyfan yn achosi effaith niweidiol ar integredd safle unrhyw safle Ewropeaidd, oni bai fod modd cymhwyso paragraffau 64 a 68 Rheoliadau Cynefinoedd 2017 (h.y. nid oes unrhyw ddatrysiadau amgen, mae’r prosiect yn destun rhesymau hanfodol, sef er budd cyhoeddus tra phwysig, a bod modd darparu digollediad am y golled). Polisi Llywodraeth Cymru yw bod safleoedd Ramsar yn cael eu hystyried yn yr un ffordd â safleoedd Ewropeaidd (Ardaloedd Cadwraeth Arbennig ac Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig). Felly, mae'r canllawiau hyn yn berthnasol i safleoedd Ramsar yn ogystal â safleoedd Ewropeaidd.

Pan fyddwn yn cynnal yr Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd, mae'n rhaid i'n hasesiad gynnwys holl gamau'r prosiect. Ni allwn gwblhau Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd am y cam cyntaf gyda golwg ar gynnal yr asesiad eto am gamau dilynol. Felly, os yw eich prosiect yn dibynnu ar wybodaeth o'r cam cyntaf i lywio'r Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd am gamau dilynol, efallai y bydd angen i chi ystyried os yw'n fwy priodol cyflwyno cais am y camau mewn ceisiadau ar wahân. Mewn rhai achosion, efallai y bydd hi'n bosib casglu gwybodaeth i lywio camau lle mae'n debygol o gadarnhau na fydd y prosiect yn achosi effeithiau niweidiol ar integredd safle. Dylech gysylltu â'r tîm trwyddedu morol i drafod ymhellach os oes angen.

Gall rhai prosiectau ddefnyddio camau lle mae effeithiau unigol yn rhai dros dro, ond gallent fod yn gronnus ag effeithiau eraill, i atal yr holl effeithiau hynny rhag digwydd ar yr un amser. Byddai hyn yn cyfyngu ar yr effeithiau yn digwydd ar un adeg i lefel dderbyniol (yn is nag effaith niweidiol). Er enghraifft, os yw effaith aflonyddu'n gysylltiedig ag adeiladu, gallai maint pob cam gweithredu gael ei gyfyngu i fod yn is na'r hyn a fyddai'n achosi effaith niweidiol ar integredd y safle.

Os bydd modd i’r prosiect achosi effaith niweidiol ar integredd safle Ewropeaidd, bydd angen i chi nodi mesurau, yn ystod unrhyw gam o'r prosiect, i leihau'r effeithiau i lefel nad yw'n peri effaith niweidiol ar y safle. Oherwydd bod y broses o gynnal Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd yn un rhagofalus, os yw'r effeithiau'n ansicr – ond gallent ddigwydd – ni allwn ddiystyru effaith niweidiol. Gallwch gynnig mesurau lliniaru posib addas ar gyfer camau'r dyfodol, efallai na fydd angen eu gweithredu, gan ddefnyddio cynllun rheoli addasol. Fodd bynnag, at ddibenion yr Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd, ni allwch ddibynnu yn unig ar asesiad arall yn y dyfodol i ddangos na fydd unrhyw effaith niweidiol o gamau diweddarach - er enghraifft, nid ystyrir casglu data i ail-gynnal asesiad fel mesur lliniaru, ac nid yw casglu data i ehangu'r sail dystiolaeth yn cael ei ystyried fel mesur lliniaru ychwaith. Mae'r wybodaeth hon yn ddefnyddiol, ond nid oes modd dibynnu arni ar gyfer Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd, y mae'n rhaid iddo ddefnyddio'r wybodaeth sydd ar gael ar adeg penderfynu ar ddyrannu’r drwydded forol. Felly, mae'n rhaid i'r cynllun ddarparu digon o fanylion ynghylch mesurau realistig sy'n darparu hyder digonol na fydd effaith niweidiol ar integredd safle, heb ddibynnu ar ddata a gesglir yn y dyfodol yn ystod y gweithrediad. Gall hyn gynnwys mesurau lliniaru efallai na fydd eu hangen os yw'r broses o gasglu data yn dynodi risg is na'r hyn a ragfynegwyd ar y cychwyn.

Cynnydd rhwng camau

Efallai y bydd hi'n bosib cynnig cynllun rheoli amgylcheddol addasol er mwyn llywio’r cyfnod pontio i gamau dilynol y prosiect. Bydd hyn yn cynnwys manylion o ran sut bydd gweithredu camau'n lleihau neu'n diddymu’r risg o effeithiau niweidiol yn digwydd a sut bydd eich prosiect yn datblygu rhwng camau. Dylai’r rhan o’r cynllun rheoli amgylcheddol addasol sy’n ymdrin â chyflwyno’r prosiect yn raddol gynnwys yr wybodaeth ganlynol:

  • Disgrifiad o gamau’r prosiect, gan nodi'n glir pa weithgareddau sy'n dod ym mhob cam.
  • Disgrifiad o sut bydd y prosiect yn datblygu rhwng camau. Dylai hwn gynnwys disgrifiad o ganlyniadau posib ym mhob 'porth', gan gynnwys pa feini prawf y mae'n rhaid eu bodloni i ganiatáu cynnydd. Mae'n rhaid i hyn gynnwys sut caiff y meini prawf eu hasesu a phwy fydd yn eu hasesu.
  • Unrhyw fesurau y mae eu hangen i leihau, osgoi neu liniaru effeithiau niweidiol a achosir gan y prosiect, ar gyfer pob cam o'r prosiect. Os yw'r effeithiau'n ansicr, mae'n rhaid cynnig mesurau digonol ac addas i leihau, osgoi neu liniaru'r effaith fwyaf i lefel nad yw'n effaith niweidiol.
  • Os defnyddir cyflwyno’r prosiect yn raddol fel mesur i leihau'r potensial am effaith yn yr Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd, dylai gael ei gynnwys yn eich cynllun rheoli amgylcheddol addasol. Wrth ystyried ai hwn yw'r datrysiad mwyaf priodol, cofiwch na allwch ddibynnu yn unig ar gynnal asesiad yn y dyfodol (ar ôl y camau cynnar) i ddangos na fydd unrhyw effaith niweidiol o gamau diweddarach. Er enghraifft, gall casglu data yn ystod y cam cyntaf lywio'r mesurau rheoli, ond ni allwch ddibynnu ar gasglu'r data hwn i ailadrodd i bob pwrpas yr Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd.
Diweddarwyd ddiwethaf