Gweld a oes arnoch angen trwydded gweithgaredd perygl llifogydd
Bydd angen trwydded gweithgarwch perygl llifogydd arnoch, a alwyd yn gydsyniad amddiffyn rhag llifogydd yn flaenorol, pe byddwch am wneud gwaith yn y lleoedd canlynol:
- ar neu'n agos at brif afon
- ar neu'n agos at adeiledd amddiffyn rhag llifogydd
- ar neu'n agos at amddiffynfa rhag y môr
- mewn gorlifdir
Gallech fod yn torri'r gyfraith os byddwch yn dechrau’r gwaith heb gael y drwydded sydd ei hangen arnoch.
Gwiriwch a yw'r gweithgaredd yn agos at brif afon
Bydd angen trwydded arnoch i weithio ar neu'n agos at brif afon. Defnyddiwch ein map o brif afonydd isod i wirio'r afon dan sylw:
(Mae'r map yn Saesneg yn unig ar hyn o bryd. Rydym yn gweithio ar gael fersiwn Gymraeg)
Ddim yn agos at brif afon
Ni fydd angen trwydded perygl llifogydd arnoch i weithio ar gwrs dŵr cyffredin – fel arfer afonydd bach, nentydd a ffosydd. Ond dylech gysylltu â'ch awdurdod cyfrifol er mwyn gwneud cais am ganiatâd cwrs dŵr cyffredin.
Os yw'r gwaith rydych yn ei gynllunio mewn Ardal Draenio Mewnol, bydd angen i chi wneud cais am ganiatâd draenio tir.
Gweithgareddau y mae angen trwydded amdanynt
Bydd angen i chi wneud cais am drwydded gweithgarwch perygl llifogydd cyn gwneud y gwaith dros dro neu barhaol a ganlyn:
- codi unrhyw adeiledd mewn, dros neu o dan brif afon
- gwneud unrhyw waith o ran addasu neu atgyweirio unrhyw adeiledd mewn, dros neu o dan brif afon os yw'r gwaith yn debygol o gael effaith ar lif y dŵr yn y brif afon neu gael effaith ar unrhyw waith draenio
- codi neu addasu unrhyw adeiledd sydd wedi'i ddylunio i gadw neu ddargyfeirio llifogydd unrhyw ran o brif afon
- unrhyw waith i garthu, codi neu gymryd unrhyw dywod, silt, balast, clai, graean neu ddeunyddiau eraill sydd ar wely neu lannau prif afon (neu lle achosir i ddeunyddiau o'r fath gael eu carthu, eu codi neu eu cymryd), gan gynnwys carthu hydrodynamig a dadsiltio
- unrhyw weithgarwch sy'n debygol o ddargyfeirio cyfeiriad llif y dŵr i mewn i brif afon neu allan ohoni, neu sy'n newid lefel y dŵr mewn prif afon
- unrhyw weithgarwch sydd o fewn wyth metr i afon nad yw'n llanwol, neu o fewn wyth metr i adeiledd amddiffyn rhag llifogydd neu gwlfer ar yr afon honno neu unrhyw weithgarwch sydd o fewn 16 o fetrau i brif afon lanwol, neu o fewn 16 o fetrau i adeiledd amddiffyn rhag llifogydd neu gwlfer ar yr afon honno, sy'n debygol o achosi'r canlynol:
- difrodi neu beryglu sefydlogrwydd glannau'r afon honno neu lannau unrhyw gwlfer
- difrodi unrhyw waith i reoli’r afon
- addasu unrhyw waith i reoli’r afon, ei ailadeiladu, ei ddirwyn i ben neu ei dynnu i ffwrdd
- dargyfeirio neu rwystro llifogydd, neu gael effaith ar ddraenio'r afon honno
- ymyrryd â mynediad Cyfoeth Naturiol Cymru i'r afon ac ar ei hyd
- unrhyw weithgaredd (heblaw gweithgaredd a ganiateir (gweler isod am ddiffiniad)) mewn gorlifdir sydd:
- yn fwy nag wyth metr o brif afon nad yw'n llanwol, neu’n fwy nag 16 o fetrau o brif afon lanwol
- yn fwy nag wyth metr o unrhyw adeiledd amddiffyn rhag llifogydd neu gwlfer ar brif afon nad yw'n llanwol
- yn fwy nag 16 o fetrau o unrhyw adeiledd amddiffyn rhag llifogydd neu gwlfer ar brif afon lanwol sy'n debygol o ddargyfeirio neu rwystro llifogydd, difrodi unrhyw waith i reoli’r afon neu gael effaith ar ddraenio
- unrhyw weithgaredd sydd o fewn 16 o fetrau o sylfaen amddiffynfa rhag y môr sy'n debygol o achosi'r canlynol:
- peryglu sefydlogrwydd yr amddiffynfa rhag y môr honno, ei difrodi, neu leihau ei heffeithiolrwydd
- ymyrryd â mynediad Cyfoeth Naturiol Cymru i'r amddiffynfa rhag y môr honno, ac ar ei hyd
- unrhyw weithgaredd o fewn wyth metr i sylfaen amddiffynfa anghysbell sy'n debygol o achosi'r canlynol:
- peryglu sefydlogrwydd yr amddiffynfa honno, ei difrodi, neu leihau ei heffeithiolrwydd
- ymyrryd â mynediad Cyfoeth Naturiol Cymru i'r amddiffynfa honno, ac ar ei hyd
- unrhyw waith chwarela neu gloddio o fewn 16 o fetrau i sylfaen amddiffynfa anghysbell sy'n debygol o ddifrodi'r amddiffynfa honno, neu beryglu ei sefydlogrwydd
- unrhyw waith chwarela neu gloddio o fewn 16 o fetrau i brif afon neu unrhyw adeiledd amddiffyn rhag llifogydd neu gwlfer ar yr afon honno sy'n debygol o ddifrodi neu beryglu sefydlogrwydd glannau'r afon honno
Gweithgareddau nad oes angen trwydded amdanynt
Esemptiadau
Nid oes angen i chi wneud cais am drwydded os yw eich gweithgaredd yn bodloni disgrifiad ac amodau un o'r gweithgareddau perygl llifogydd sydd wedi'i esemptio. Ond bydd angen i chi gofrestru eich esemptiad cyn dechrau gwaith.
Gellir cofrestru esemptiad yn rhad ac am ddim.
Eithriadau
Nid oes angen i chi gael caniatâd os ydych yn bwriadu gwneud un o'r gweithgareddau sydd wedi'u heithrio. Ond bydd yn rhaid i chi weithredu dan ddisgrifiad ac amodau'r eithriad.
Gwneud gwaith brys
Rhowch wybod i ni os oes angen i chi wneud unrhyw waith brys mewn ymateb i ddigwyddiad heb ei gynllunio sy'n cyflwyno:
- perygl o lifogydd difrifol i eiddo
- effaith andwyol ddifrifol ar ddraenio
- niwed difrifol i'r amgylchedd
- perygl difrifol i ddiogelwch y cyhoedd
Mae angen i chi gysylltu â ni cyn gynted ag y bo'n ymarferol (drwy'r cyfeiriadau e-bost isod) ac egluro pa weithgareddau sydd wedi'u cynnal a'r amgylchiadau:
Ni chaiff gweithgaredd a gynllunnir ymlaen llaw ac sydd wedi'i gynllunio mewn ymateb i argyfwng cyn iddo ddigwydd ei ystyried yn waith brys.