Gwneud cais am drwydded gweithgaredd perygl llifogydd

BETA: Mae hwn yn wasanaeth newydd — rhowch adborth i'n helpu i'w wella

 


 

Rydym yn ceisio eich barn ar gynlluniau i ddiweddaru ein ffioedd ar gyfer rhai o'n trwyddedau a’n gweithgareddau cydymffurfio ar gyfer 2024 - 2025.

 

Mae'r ymgynghoriad ar gael ar-lein a bydd yn cau ddydd Llun 8 Ionawr 2024.

Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i wneud cais am drwydded gweithgaredd perygl llifogydd.

Cyn i chi ddechrau

Edrychwch i weld pa wybodaeth sydd ei hangen arnoch i baratoi ar gyfer eich cais am drwydded gweithgaredd perygl llifogydd.

Mae hefyd angen i chi wybod:

  • manylion yr ymgeisydd
  • gwybodaeth am y tirfeddiannwr
  • unrhyw gyfeirnod cyn ymgeisio
  • dyddiadau dechrau a gorffen arfaethedig
  • gwybodaeth am y gwaith arfaethedig
  • sut y bydd y gwaith yn effeithio ar afon yr amddiffynfa rhag llifogydd
  • lleoliad y safle - gan gynnwys cyfeirnod grid
  • unrhyw gyfeirnod caniatâd cynllunio 
  • pwy fydd yn gyfrifol am y safle yn ystod ac ar ôl y gwaith
  • manylion talu - cyfrifwch eich ffioedd



 

Amserlenni

Byddwn fel arfer yn gwneud penderfyniad o fewn 2 mis ar ôl derbyn cais cyflawn a'r ffi gywir

Cael mwy o gymorth gyda'ch cais

Rydym yn darparu gwasanaeth cynghori un i un i'ch helpu i ddeall y gofynion cyfreithiol wrth ymgymryd â rhai gweithgareddau a chynorthwyo gyda'r broses ymgeisio.

Diweddarwyd ddiwethaf