Taliadau Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU

Mae’r taliadau hyn yn berthnasol o 01 Ebrill 2025.

Cysylltwch â ni drwy: ghghelp@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Gosodiadau sefydlog

Mae gosodiadau fel gorsafoedd pŵer, purfeydd olew a phlatfformau alltraeth, yn ogystal â diwydiannau sy'n cynhyrchu haearn a dur, sment a chalch, papur, gwydr, cerameg a chemegion, yn cael eu dosbarthu fel gosodiadau sefydlog.

Taliadau parhau ar gyfer gosodiadau sefydlog

Mae'r tâl parhau yn daladwy bob blwyddyn ac mae'n seiliedig ar eich allyriadau. Mae'n cwmpasu'r costau canlynol:

  • adolygiad o adroddiadau allyriadau blynyddol sydd wedi’u dilysu a deunydd cysylltiedig
  • adolygiad o adroddiadau ar lefelau gweithgarwch sydd wedi’u dilysu
  • parhau eich trwydded
  • parhau eich defnydd o Gofrestrfa’r DU
  • prosesu hysbysiadau
  • delio ag amrywiadau gweinyddol neu fân amrywiadau i gynlluniau monitro a chynlluniau methodoleg monitro
  • archwiliadau cydymffurfiaeth
  • darparu desg gymorth
  • casglu ac adolygu data sylfaenol (ac eithrio Allyrwyr Bach Iawn)

Taliadau parhau Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU ar gyfer gosodiadau sefydlog yng Nghymru:

Categori’r gosodiad Tâl parhau Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU

Cat C – Yn allyrru mwy na 500,000 o dunelli o CO2e y flwyddyn

£2,711

Cat B – Yn allyrru o leiaf 50,000 o dunelli a dim mwy na 500,000 o dunelli o CO2e y flwyddyn

£3,093

Cat A – Yn allyrru llai na 50,000 o dunelli o CO2e y flwyddyn

£3,475

Ysbyty neu allyrrwr bach

£2,235

 

Gosodiad dyrannu am ddim gyda 1 i 2 is-osodiad

 

 

£7,254

 

Gosodiad dyrannu am ddim gyda 3 neu fwy o is-osodiadau

 

£15,375

Os ydych yn ymuno â Chynllun Masnachu Allyriadau'r DU rhan o'r ffordd trwy flwyddyn, codir cyfran o'r tâl parhau arnoch yn ôl nifer y dyddiau sy'n weddill yn y flwyddyn. Bydd y cyfrifiad yn cychwyn o'r dyddiad y rhoddir neu y trosglwyddir eich trwydded.

Os byddwch yn ildio eich trwydded, neu os caiff ei dirymu, a bod hyn yn digwydd rhan o'r ffordd trwy flwyddyn, byddwn yn ad-dalu cyfran o'r tâl parhau blynyddol rydych wedi'i dalu. Bydd y cyfrifiad yn seiliedig ar nifer y dyddiau sydd ar ôl yn y flwyddyn.

Gwneud cais am drwydded newydd

Rydych yn talu hyn wrth i chi wneud cais am drwydded newydd.

Taliadau trwyddedau newydd Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU ar gyfer gosodiadau sefydlog yng Nghymru:

Categori’r gosodiad Tâl Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU ar gyfer trwydded newydd

Cat C – Yn allyrru mwy na 500,000 o dunelli o CO2e y flwyddyn

£5,622

Cat B – Yn allyrru o leiaf 50,000 o dunelli a dim mwy na 500,000 o dunelli o CO2e y flwyddyn

£7,496

Cat A – Yn allyrru llai na 50,000 o dunelli o CO2e y flwyddyn

£9,369

Ysbyty neu allyrrwr bach

£5,622

Gosodiad dyrannu am ddim gyda 1 i 2 is-osodiad

£13,117

Gosodiad dyrannu am ddim gyda 3 neu fwy o is-osodiadau

£14,991

Ceisiadau am newidiadau i drwyddedau cyfredol (amrywiadau)

Amrywiad Sylweddol

Mae'r taliadau hyn yn berthnasol i newidiadau sylweddol oherwydd mae angen i ni gynnal asesiad technegol o'ch cais i amrywio'ch trwydded.  Gwiriwch y tâl amrywio isod yn dibynnu a ydych yn gosod dyraniad am ddim ai peidio.

Mân Amrywiad

Mae'r taliadau hyn yn berthnasol i amrywiad ansylweddol sy'n gofyn am ychydig iawn o asesiad technegol ac nid yw'n weinyddol yn unig.

Amrywiad Gweinyddol

Nid oes angen unrhyw fewnbwn technegol ar gyfer y rhain, er enghraifft newid cyfeiriad cofrestredig y cwmni.

Codir tâl am ychwanegu gweithgaredd newydd at drwydded fel cais newydd.

Yr un swm fydd y tâl ar gyfer trosglwyddo p'un a fyddwch am drosglwyddo’ch trwydded gyfan ynteu ran ohoni, a bydd yn ddaladwy gan naill ai'r trosglwyddwr neu'r trosglwyddai (ond nid y ddau).

Yr un swm fydd y tâl ar gyfer ildio neu ddirymu trwydded p'un a fyddwch yn gwneud cais i ildio’ch trwydded neu cyflwynwn rybudd ein bod yn dirymu eich trwydded. Yn achos yr olaf, anfonwn anfoneb atoch.

Os ydych yn ysbyty neu osodiad allyrrwr bach a'ch bod yn gwneud cais i gynyddu eich targed allyriadau yn dilyn cynnydd mewn gallu, bydd yn ofynnol i chi dalu ffi er mwyn adfer y gost o amrywio’ch trwydded.

Os yw'r wybodaeth rydych yn ei hanfon atom gyda'ch cais yn anghywir neu anorffenedig, mae'n bosibl y bydd yn rhaid i chi dalu tâl pellach.

Taliadau am newidiadau i drwyddedau presennol Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU ar gyfer gosodiadau sefydlog yng Nghymru:

Math o newid i'r drwydded Tâl Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU

Amrywiad gweinyddol

£375

Mân amrywiad

£1,125

Amrywiad sylweddol (dim dyraniad am ddim)

£4,498

Amrywiad sylweddol (dyraniad am ddim)

£6,371

Targed allyriadau uwch (cynnydd capasiti HSE)

£5,622

Cronfa newydd-ddyfodiaid

£7,496

Trosglwyddo trwydded

£5,622

Ildio trwydded

£5,622

Dirymu trwydded

£5,622

Os ydych yn ansicr a oes rhaid i chi dalu tâl amrywio, anfonwch e-bost at GHGHelp@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Gweithredwyr awyrennau

Diffinnir unrhyw unigolyn sy'n gweithredu awyren pan fydd yn hedfan fel gweithredwr awyrennau.

Tâl parhau ar gyfer gweithredwyr awyrennau

Mae'r tâl parhau yn daladwy bob blwyddyn ac yn cynnwys costau:

  • parhau eich lle fel gweithredwr awyrennau yng Nghynllun Masnachu Allyriadau’r DU
  • prosesu hysbysiadau
  • parhau eich defnydd o Gofrestrfa’r DU
  • delio ag amrywiadau gweinyddol neu fân amrywiadau i gynlluniau
  • archwilio cydymffurfiaeth
  • darparu desg gymorth a datrys problemau

Mae'r tâl parhau yn cynnwys dwy ran. Mae'n cynnwys elfen o dâl sefydlog o'r enw tâl sylfaenol. Byddwch yn talu hwn os ydych yn cynnal gweithgareddau hedfan am unrhyw ran o'r flwyddyn gydymffurfio. Mae'r tâl sylfaenol yn ddibynnol ar eich allyriadau.

Taliadau parhau Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU ar gyfer gweithredwyr awyrennau yng Nghymru:

Categori gweithredwr awyrennau Tâl sylfaenol Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU

Yn allyrru mwy na 500,000 o dunelli o CO2e y flwyddyn

£2,700

Yn allyrru o leiaf 50,000 o dunelli a dim mwy na 500,000 o dunelli o CO2e y flwyddyn

£2,197

Yn allyrru llai na 50,000 o dunelli o CO2e y flwyddyn

£1,695

Os ydych yn cymhwyso fel gweithredwr awyrennau yn y DU rhan o'r ffordd trwy flwyddyn gydymffurfio, codir tâl pro rata arnoch yn seiliedig ar nifer y dyddiau sy'n weddill yn y flwyddyn. Bydd y tâl yn cychwyn o'r dyddiad sydd ar eich cynllun allyriadau, nid o'r dyddiad y gwnaethoch gais am y cynllun.

O fewn unrhyw flwyddyn galendr unigol, os bydd eich cynllun allyriadau yn cael ei atal a'i ailgychwyn eto yng nghanol y flwyddyn, ni fydd rhan amrywiol eich tâl yn cael ei haddasu.

Bydd angen i chi hefyd dalu tâl amrywiol a fydd yn dibynnu ar hyd y cyfnod y mae cynllun allyriadau wedi bod ar waith gennych yn ystod blwyddyn gydymffurfio.

Taliadau newidiol Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU ar gyfer gweithredwyr awyrennau yng Nghymru

Categori gweithredwr awyrennau Tâl newidiol Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU

Yn allyrru mwy na 500,000 o dunelli o CO2e y flwyddyn

£900

Yn allyrru o leiaf 50,000 o dunelli a dim mwy na 500,000 o dunelli o CO2e y flwyddyn

£733

Yn allyrru llai na 50,000 o dunelli o CO2e y flwyddyn

£557

Ceisiadau am drwyddedau ac amrywiadau iddynt ar gyfer gweithredwyr awyrennau

Ni chodir tâl am bob amrywiad trwydded, ac os byddwn o'r farn bod yr amrywiad yn golygu newid gweinyddol neu fân newid yn unig, ni fydd angen i chi dalu ffi. Efallai y codir y tâl amrywio cynllun allyriadau hefyd os ydym wedi cyflwyno hysbysiad amrywio i chi.

Mae'r cais am y Gronfa Arbennig hefyd yn cynnwys cost eich cais ar gyfer eich cynllun meincnodi.

Taliadau ar gyfer ceisiadau am drwyddedau, ac amrywiadau iddynt, Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU ar gyfer gweithredwyr awyrennau yng Nghymru

Math o gais am drwydded Tâl Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU

Cais am gynllun allyriadau

£625

Amrywiad cynllun allyriadau

£358

Cais am gynllun meincnodi

£692

Cais am y Gronfa Arbennig

£933

Os nad ydych yn sicr a oes angen i chi dalu tâl amrywiad, anfonwch e-bost at: GHGHelp@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Elfennau cyffredin taliadau

Taliadau pro rata ar gyfer ffioedd parhau

Pan roddir trwydded rhan o'r ffordd trwy'r flwyddyn, caiff y taliadau eu cyfrifo ar sail pro rata ar gyfer y cyfnod sy'n weddill hyd at ddiwedd y flwyddyn.

Cynnydd yn chwyddiant y mynegai prisiau manwerthu

Bob blwyddyn, gall CNC gynyddu taliadau hyd at (ac yn cynnwys) chwyddiant y mynegai prisiau manwerthu yn unol â'r cynnydd ym mesuriadau chwyddiant y Swyddfa Ystadegau Gwladol ar 30 Medi yn y flwyddyn uniongyrchol flaenorol. Byddai cynnydd y tu hwnt i'r mynegai prisiau manwerthu ond yn digwydd wedi i ni gynnal ymgynghoriad ar newidiadau o'r fath a'n bod wedi derbyn cymeradwyaeth gan weinidogion i wneud hynny.

Cyfradd yn ôl yr awr

Bydd y gyfradd yn ôl yr awr o £125 yn cael ei chodi ar gyfer unrhyw waith trwyddedu atodol.

Codir ffi ymgeisio safonol ynghyd â chyfradd ychwanegol fesul awr (lle bo'n berthnasol) ar geisiadau cyntaf o fath.

Codir £125 yr awr am gasglu data sylfaenol ar gyfer Allyrwyr Bach Iawn (allyriadau <2,500t CO2e y flwyddyn nad oes angen trwydded arnynt).

Cyngor cyn ymgeisio

Rydym yn darparu gwasanaeth dewisol sy'n dibynnu ar y capasiti sydd ar gael ac sy'n cael ei godi ar y gyfradd reoleiddiol safonol yr awr o £125 yr awr.

I ofyn am gyngor cyn ymgeisio e-bostiwch: GHGHelp@naturalresourceswales.gov.uk

Sut i dalu am eich taliadau trwydded UK ETS

  • Rhaid i chi gynnwys enw eich cwmni a rhif adnabod eich trwydded UK ETS gyda'r taliad.
  • Gallwch dalu am eich taliadau trwydded UK ETS trwy drosglwyddiad banc electronig BACS neu gerdyn credyd dros y ffôn.

Talu trwy drosglwyddiad BACS

Os ydych am dalu am eich hawlen neu gais am drwydded trwy drosglwyddiad electronig defnyddiwch y wybodaeth isod i wneud eich taliad. 

Enw'r cwmni: Cyfoeth Naturiol Cymru
Cyfeiriad y cwmni: Adran Incwm, Blwch Post 663, Caerdydd, CF24 0YD

Banc: RBS
Cyfeiriad: National Westminster Bank Plc., 2 1/2 Devonshire Square, Llundain, EC2M 4BA
Cod didoli: 60-70-80
Rhif cyfrif: 10014438

Pan fyddwch yn sefydlu eich trosglwyddiad BACS, cynhwyswch enw eich cwmni a rhif adnabod trwydded UK ETS yn yr adran gyfeirio. 

Talu am eich trwydded dros y ffôn

Ffoniwch ni ar 0300 065 3000 (Llun-Gwener, 9am-5pm) 
E-bost: enquiries@naturalresourceswales.gov.uk

Os ydych yn talu dros y ffôn dewiswch opsiwn 5 i siarad â gweithredwr yn hytrach nag opsiwn 3 a rhowch enw eich cwmni a rhif adnabod eich trwydded UK ETS.

 

Diweddarwyd ddiwethaf