Dewis rhywogaethau coed

Gellir creu amrywiaeth coetiroedd drwy gynyddu'r dewis o rywogaethau, gwneud gwell defnydd o'r rhywogaethau sy'n cael eu ffafrio eisoes, a chreu cymysgeddau priodol ar raddfa clwstwr, coetir neu dirwedd. Mae coetiroedd cymysg yn debygol o allu ymdopi'n well â hinsawdd sy'n newid gan na fydd yn rhaid i ni 'roi ein hwyau i gyd yn yr un fasged'.
Newid yn yr hinsawdd ac amrywiaeth
Bydd y newid rhagweledig yn yr hinsawdd yn peri i rai rhywogaethau coed yng Nghymru dyfu'n well nag yn y gorffennol. Bydd eraill yn gwneud yn waeth oherwydd straen sychder neu ymosodiadau gan blâu, er enghraifft.
Gallwn broffwydo'n rhesymol pa rywogaethau sy'n debygol o wneud yn well neu'n waeth, ond mae'r dyfodol yn ansicr, felly'r 'polisi yswiriant' gorau sydd gennyn ni yw plannu amrywiaeth eang o rywogaethau er mwyn i rai ohonyn nhw wneud yn dda. Rydyn ni eisoes yn symud i'r cyfeiriad hwn, gyda'r dewis o rywogaethau sy'n cael eu plannu yn cynyddu.
Graddfa'r amrywiaeth
Gellir cyflawni amrywiaeth ar amrediad o raddfeydd ac nid yw'n golygu dim ond cymysgedd clôs o fewn pob llain o goetir. Bydd y raddfa fwyaf addas yn ddibynnol ar amcanion rheolwr y goedwig a nodweddion y safle. Yn yr un modd, bydd angen ystyried yr un ffactorau wrth benderfynu ar addasrwydd rhywogaethau.
Heriau i amrywiaeth
Un o'r heriau mwyaf wrth geisio cynyddu amrywiaeth rhywogaethau mewn coetiroedd sy'n bodoli eisoes fydd yr angen i wthio'r ffiniau o ran pa mor agored yw'r safle, y math o bridd a'r parth hinsoddol. Bydd hyn yn golygu mentro’n ofalus i wella iechyd ecosystem y coetir yn gyffredinol.
Cyfarwyddyd ar gynyddu amrywiaeth
Rydym wedi cynhyrchu Canllaw Arfer Da ar reoli amrywiaeth genetig coetiroedd Cymru er mwyn sicrhau gwydnwch coedwigoedd (Saesneg yn unig).
Cyfarwyddyd Forest Research
Mae Forest Research wedi paratoi nodiadau coedamaeth, dogfennau cyfeirio a gwybodaeth ddefnyddiol iawn ar dros 60 o rywogaethau coed sy'n cael eu tyfu'n helaeth ar hyn o bryd yng nghoedwigoedd Prydain, neu a allai chwarae rhan gynyddol yn y dyfodol. Maen nhw'n canolbwyntio ar y rhywogaethau hynny y bydd disgwyl iddyn nhw, o bosibl, gynhyrchu pren defnyddiol mewn hinsawdd Brydeinig.
Gweld amrywiaeth yn cael ei weithredu
Gallwch ddod o hyd i enghreifftiau o'r rhywogaethau gwahanol hyn mewn mannau megis voederddi a gerddi coedwigoedd y Comisiwn Coedwigaeth yn Bedgebury, Brechfa, Fforest y Ddena, Kilmun, y New Forest a Westonbirt.
Ffynonellau eraill o wybodaeth
Mae Silvifuture yn rhwydwaith a sefydlwyd i hyrwyddo a rhannu gwybodaeth am rywogaethau coedwigoedd newydd ledled Prydain.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn parhau i gefnogi ymchwil a fydd yn ein helpu ni i ddarparu rhagor o wybodaeth.
Os hoffech gysylltu â thîm Rheolaeth Coedwigaeth Gynaliadwy Cyfoeth Naturiol Cymru, gallwch anfon ein hymholiad at sfmt@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk