Gwerthiant pren tymor hir
Cynllun gwerthu 2025-26
Mae'r cynllun gwerthu 2025-26 yn dangos sut y byddwn yn dyrannu cyfanswm cyfaint ein cynnyrch blynyddol rhwng y pedwar digwyddiad gwerthu ar-lein. Mae’r cyfeintiau y bwriadwn eu marchnata ym mhob digwyddiad gwerthu hefyd wedi’u rhannu rhwng cynhyrchu uniongyrchol o ran cynhyrchion pren crwn, a gwerthiannau coed sy’n sefyll.
Tabl o'r cynnig cyfaint targed arfaethedig cyfartalog (m3)
Dyddiad | Coed sy’n sefyll |
---|---|
eWerthiant Ebrill - 29/04/2025 |
180,000 m3obs |
eWerthiant Gorffennaf - 29/07/2025 |
180,000 m3obs |
eWerthiant Hydref - 28/10/2025 |
180,000 m3obs |
eWerthiant Ionawr - 27/01/2026 |
180,000 m3obs |
Cyfanswm |
720,000 m3obs |
Contractau hirdymor
Contractau pum mlynedd yw contractau hirdymor fel arfer. Cânt eu cynnig ar ffurf gwerthiannau coed sy’n sefyll neu ymyl y ffordd. Caiff contractau hirdymor eu rhoi ar dendr yn ôl cyfaint penodol, sydd wedi’i rannu’n gyfartal dros gyfnod y contract. Caiff prisiau contractau ymyl y ffordd eu diwygio'n flynyddol fel arfer, a chaiff prisiau contractau coed sy'n sefyll eu diwygio yn ôl y lot.
Nid oes cynlluniau i gynnig unrhyw gontractau hirdymor pellach ar hyn o bryd. Byddwn yn parhau i fonitro ac adolygu’r sefyllfa a byddwn yn hysbysebu unrhyw gyfleoedd ar gyfer contractau pellach yn ôl yr angen.
Manteision
Roedd y contractau hyn yn cynnig:
- cyflenwad hirdymor gwarantedig o bren
- cymorth ar gyfer buddsoddi yn niwydiant pren Cymru
Y broses dendro
Mae'r rhan fwyaf o'n gwerthiannau pren ar y farchnad agored yn cael eu cynnal yn electronig, trwy ein rhaglen e-werthiant Pren. Y prif fformat ar gyfer gwerthu cystadleuol yw tendr electronig. Rydym yn gobeithio y bydd mwyafrif ein cwsmeriaid yn elwa trwy brynu pren ar-lein, ac yn gallu manteisio ar hyn.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â'r tîm Gwerthu Pren.