Hysbysiadau iechyd planhigion statudol
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi map Phytophthora ramorum sy’n dangos y parthau clefyd.
Mae gan bob SPHN radiws o 100 metr o leiaf o amgylch unrhyw larwydden heintiedig neu symptomatig gan mai dyma’r pellter y mae mwyafrif y sborau’n ymledu ar y dechrau.
Mathau o hysbysiadau statudol
Rydym yn dosbarthu tri math o hysbysiadau statudol.
Hysbysiad Iechyd Planhigion Statudol
Hysbysiad yw HIPS sy'n gofyn am ddinistrio coed llarwydd o fewn cyfnod penodol o amser. Mae’r cyfnod o amser hwn hefyd yn dibynnu ar ble yng Nghymru y mae’r coed:
Yn y Parth Cyfyngu ar y Clefyd (DLZ) mae angen cwblhau'r gwaith erbyn naill ai'r 31 Mawrth nesaf neu 31 Awst nesaf, gan ddibynnu ar ba bryd y cafodd y clefyd ei gadarnhau a chan ganiatáu cyfnod rhesymol o amser er mwyn cwblhau'r gwaith.
Ym Mharth Craidd y Clefyd 2 (CDZ2), mae angen cwblhau'r gwaith erbyn naill ai 31 Mawrth neu 31 Awst ymhen tair blynedd, gan ddibynnu ar ba bryd y cafodd yr haint ei gadarnhau.
Os oes gennych SPHN, mae hyn yn rhoi cyfarwyddiad i chi gwympo’r coed a nodwyd yn yr hysbysiad. Nid oes angen trwydded cwympo coed.
Er nad yw SPHN yn ei gwneud yn ofynnol yn ôl y gyfraith i safle gael ei ailstocio, gall methu ag ailstocio arwain at golled parhaol o goetir, a gall roi perchennog y tir mewn perygl o dorri rheoliadau datgoedwigo’r Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol. Er mwyn gwarchod gorchudd coetir ac osgoi problemau rheoleiddio, mae’n bwysig bod yr ardal yn cael ei hailstocio.
HIPS(m)
Hysbysiad symud yw SPHN(m), sy’n galluogi’r deunydd heintiedig i gael ei gynnwys ar y safle neu ei symud o dan drwydded. Nid oes gofyniad i ddinistrio’r coed (eu cwympo), ond rhaid i’r pren gael ei gludo gan gludwyr trwyddedig a’i ddanfon i felin lifio drwyddedig. Mae angen Trwydded Cwympo Coed pan fydd SPHN(m) ar waith. Nid oes terfyn amser yn gysylltiedig ag SPHN(m).
Mae angen caniatâd arnoch i gwympo’r coed, a rhaid i chi lenwi’r ffurflen drwydded cwympo coed.
HIPS(mr)
Mae SPHN(mr) yn hysbysiad symud a gyhoeddir gennym ni, lle mae’r perchennog wedi cytuno i drin y coed fel pe baent wedi’u heintio. Nid oes gofyniad i ddinistrio’r coed (eu cwympo), ond rhaid i’r pren gael ei gludo gan gludwyr trwyddedig a’i ddanfon i felin lifio drwyddedig. Mae angen Trwydded Cwympo Coed pan fydd SPHN(mr) ar waith. Nid oes terfyn amser yn gysylltiedig ag SPHN(mr).
Mae angen caniatâd arnoch i gwympo’r coed, a rhaid i chi lenwi’r ffurflen drwydded cwympo coed.
O 1 Chwefror 2026, byddwn yn awtomatig yn cyhoeddi SPHN(mr) ar gyfer pob cais i gwympo coed sy’n cynnwys llarwydd, oni bai bod y safle eisoes wedi’i archwilio, waeth beth fo’r adeg o’r flwyddyn. Os nad yw ymgeisydd yn dymuno cael SPHN(mr), gall ofyn am archwiliad llarwydd drwy lenwi’r ffurflen gais am archwiliad llarwydd sy’n rhan o’r ffurflen drwydded cwympo coed.
Rhwng 1 Ebrill a 31 Awst, efallai y bydd tîm Rheoliadau Coedwigaeth ac Iechyd Coed yn cysylltu â chi i drefnu ymweliad â’r safle.
Os na chanfyddir haint, bydd yr SPHN(mr) yn cael ei ddiddymu.
DLZ: SPHN, sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r llarwydd gael eu cwympo o fewn cyfnod penodol (fel arfer o fewn 6 i 9 mis)
CDZ2: SPHN, sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r llarwydd gael eu cwympo o fewn cyfnod penodol
CDZ1: SPHN(m)
Y caniatâd y bydd ei angen arnoch er mwyn cwympo coed
Os oes gennych HIPS, yna mae hyn yn rhoi gorchymyn i chi gwympo'r coed a nodwyd yn yr hysbysiad. Nid oes angen unrhyw ganiatâd pellach arnoch.
Os rhoddwyd HIPS(m) i chi neu rydych wedi gwneud cais am HIPS(mr) i chi, yna bydd angen caniatâd arnoch i gwympo'r coed, trwy Gais Trwyddedau Cwympo Coed gan ein Tîm Gwasanaethau Trwyddedu.
Torri rhywogaethau eraill o goed yn yr ardal goch ar eich map
Dim ond rhywogaethau a enwir yn Adran 3 yr hysbysiad all gael eu torri fel rhan o’r HIPS.
Os ydych yn dymuno torri unrhyw rywogaethau coed eraill nad ydynt wedi eu heintio bydd angen trwydded cwympo arnoch.
Gwneud cais am drwydded cwympo
Mesurau bioddiogelwch
Rhaid i’r dull o dorri a symud eich pren gydymffurfio â chyfarwyddiadau bioddiogelwch a nodir dan y drwydded symud a ddarperir i’r cludwyr gan Ymchwil Coedwigoedd.
Er mwyn atal symud y clefyd i safleoedd eraill, rydym yn argymell bod camau diogelu syml yn cael eu cymryd fel cadw at lwybrau, brwsio baw a dail oddi ar esgidiau neu deiars wrth adael coedwig ac, os ydych chi eich hun yn gweithio yn y coed neu o’u cwmpas, ystyriwch ddefnyddio diheintydd priodol.
Rydym yn eich cynghori i gynnal yr ymagwedd hon am dair blynedd o leiaf ar ôl torri coed heintiedig oherwydd y gall sborau o’r clefyd barhau i fod yn weithredol am y cyfnod hwn.
Darganfyddwch ragor am fioddiogelwch.
Symud pren heintiedig
Gwnewch gais am drwydded symud os ydych eisiau symud y pren eich hun.
Ailstocio
Os yw’r torri wedi ei wneud yn unol â HIPS yna nid oes gofyniad dan y Gorchymyn Iechyd Planhigion i ailblannu, ond os yw’r torri’n esgor ar golled sylweddol o lastiroedd, gallai olygu bod torri amodau wedi bod yn unol â Rheoliadau Asesiad Effaith Amgylcheddol (Coedwigaeth) 1999.
Cyngor ar dorri ac ailblannu
Ni allwn ddarparu cyngor uniongyrchol ar dorri neu ailblannu ar gyfer safleoedd unigol nac argymell contractwyr.
Os ydych yn ansicr ynglŷn â sut i fynd i’r afael â gweithrediadau coedwigoedd neu geisiadau am grantiau gallwch gysylltu ag asiant coedwigaeth preifat. Gallwn roi rhestr i chi o asiantau coedwigaeth. Gallwch hefyd ddefnyddio asiant nad ydyw ar y rhestr. Cysylltwch â ni ar treehealth@naturalresourceswales.gov.uk.
Nid ydym yn argymell eich bod yn ailblannu gyda choed sydd yn agored i Phytophthora ramorum.
Ymweliadau gan weithwyr iechyd coed proffesiynol
Gall cydweithwyr o Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) wneud arolwg bellach o’r ardal oddi amgylch ac efallai y byddan nhw’n dymuno ymweld â’ch coetir hefyd. Byddan nhw’n cysylltu â chi cyn ymweld.
Efallai y byddwn hefyd yn ailymweld â’r safle fel rhan o’n gwiriadau cydymffurfio safonol er mwyn sicrhau bod yr hysbysiad wedi ei gyflawni, ac i benderfynu a yw hi’n briodol cau/dirymu’r hysbysiad.
Cyfnod yr hysbysiad statudol
Fel arfer, rydym yn dirymu’r hysbysiad dair blynedd ar ôl gorffen torri’r coed, os yw’r holl ddeunydd sydd wedi ei heintio wedi cael ei dynnu oddi yno.