Rhan hollbwysig o'n ecosystem

Mae mawndir mewn cyflwr dilychwin neu dda yn darparu ystod o swyddogaethau ecosystem hollbwysig, gan gynnwys bioamrywiaeth, dal a storio carbon, rheoli llif gwaelodol nentydd, dŵr ffo ac anterth llifogydd i lawr yr afon. Y mae hefyd yn rheoli ac yn cadw maetholion. Mae mawndiroedd hefyd yn ddalfeydd, ac yn ffynhonnell i lawer o nwyon tŷ gwydr naturiol, yn enwedig carbon deuocsid (CO2) a methan (CH4).

Mawndiroedd mewn cyflwr gwael

Gall mawndiroedd sydd mewn cyflwr gwael sychu ac ocsideiddio, a bydd hyn yn achosi iddynt allyrru carbon. Bydd mawndir sydd mewn cyflwr da, ar y llaw arall, yn ffurfio mawn ac, o ganlyniad, yn dal ac yn storio carbon.

Mae mwy na 75% o’r priddoedd mawn dwfn sydd yng Nghymru wedi’u gorchuddio â llystyfiant lled-naturiol. Mae’r rhan fwyaf o hwnnw'n orgors ar dir uchel, ac mae'n cynnwys llawer iawn o ffeniau a llaciau, a gorgors iseldirol mewn rhai mannau. Mae’r rhain i gyd yn gynefinoedd y rhoddir blaenoriaeth iddynt yng Nghynllun Gweithredu’r DG ar Fioamrywiaeth, ac mae iddynt dargedau ar lefel Brydeinig a Chymreig parthed rheoli ac adfer cynefinoedd.

Rheoli mawn dwfn

Rydym wedi ymrwymo i reoli'r 18,092ha o fawn dwfn sydd o dan orchudd coetir, er mwyn sicrhau buddion i'r ecosystem. Comisiynwyd prosiect cydweithredol ar y cyd rhwng Comisiwn Coedwigaeth Cymru, Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru a Llywodraeth Cymru ac fe’i cyflwynwyd gan Forest Research.

Adroddiad ar adnoddau mawn

Mae’r adroddiad, 'Asesiad strategol o adnoddau mawn wedi’i goedwigo yng Nghymru, a goblygiadau dulliau rheoli amrywiol ar gyfer targedu gwaith adfer mawndir, o safbwynt bioamrywiaeth, llif nwyon tŷ gwydr a hydroleg' yn mynd i'r afael â'r pynciau canlynol:

  • Asesu'r dosbarthiad o fawndiroedd Cymru, ar sail yr wybodaeth ofodol orau sydd ar gael am faint a lleoliad pridd mawnog a mawndiroedd
  • Darparu map gwell i ddangos dosbarthiad adnoddau gorgors fawnog yr ucheldir a phriddoedd mawn dwfn
  • Cynnig map gwell i ddangos dosbarthiad mawn dwfn wedi’i goedwigo yng Nghymru a pherchnogaeth tir wedi’i goedwigo yng Nghymru
  • Darparu arolwg o effeithiau tebygol ffactorau ffurfio mawn ac adfer mawndir wedi’i goedwigo, a rheolaeth er budd bioamrywiaeth, hydroleg a nwyon tŷ gwydr
  • Datblygu cynlluniau asesu cenedlaethol a chynlluniau maes wedi’u seilio ar feini prawf sy’n seiliedig ar reolau, ffactorau dirprwyol a throthwyon ar gyfer asesu ac adfer mawndir wedi’i goedwigo yng Nghymru
  • Cynnal asesiad GIS cenedlaethol sy’n nodi ardaloedd adfer posibl yng Nghymru
  • Profi’r offeryn asesiad maes drwy wneud gwaith maes ar nifer o safleoedd yng Nghymru i gadarnhau damcaniaethau
  • Costau cymharol adfer mawn sydd wedi’i goedwigo

Crynodeb o'r adroddiad

Mae'r adroddiad hwn yn nodi'r cyfleoedd i adfer mawn dwfn sydd wedi’i goedwigo ac yn nodi blaenoriaethau o ran y gwaith hwnnw. Mae crynodeb o'r adroddiad mawn ar gael fan hyn.

Mae yna offeryn asesiad maes y gall gweithwyr cymwys ei ddefnyddio i asesu coedwigoedd ar fawn dwfn.

Diweddarwyd ddiwethaf