Clymog Japan: Beth sydd angen ei wybod

Mae Clymog Japan (Reynoutria japonica, a elwid yn Fallopia japonica yn flaenorol), yn frodorol i Japan, Taiwan a gogledd Tsieina, a chafodd ei gyflwyno i'r DU ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg fel planhigyn addurnol. Mae’n blanhigyn lluosflwydd, gan dyfu o’u gwreiddgyffion tanddaearol bob blwyddyn, ac yn lledaenu’n gyflym yn naturiol neu o ganlyniad i weithgaredd dynol.
Lledaenir clymog Japan wrth i dameidiau o wreiddgyffion neu goesau gael eu cludo i leoliadau newydd. Gall darnau bychain o goesau / gwrthgyffion arwain at blanhigion newydd i dyfu. Mae’r planhigyn yn ffurfio clystyrau dwys sy’n cystadlu’n well na’n llystyfiant brodorol ac yn achosi difrod i adeiladu a niwsans.
Cyfrifoldebau
Perchennog y tir sydd bron bob amser yn gyfrifol am reoli twf Clymog Japan (Japanese Knotweed) – oni bai mai’r lesddaliwr sy’n gyfrifol am reoli’r tir
Mae hyn yn wir ar gyfer pob safle gan gynnwys glannau afonydd. Nid yw Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn berchen ar unrhyw afonydd neu lannau afonydd (oni bai eu bod o fewn ein tirddaliadau, neu ar dir yr ydym ni’n gyfrifol amdano e.e. gwarchodfeydd natur CNC neu Ystâd Goed Llywodraeth Cymru).
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn trin rhywogaethau ymledol ar eu tir yn ogystal â’u hasedau rheoli perygl o lifogydd, ond nid ydynt yn gyfrifol am drin rhywogaethau ymledol ar afonydd a glannau afonydd sy’n eiddo i bartïon eraill.
Os nad ydych yn gwybod pwy sydd yn berchen ar y tir o dan sylw, gallwch ganfod y wybodaeth trwy gyflawni chwiliad cofrestrfa tir.
Sefyllfa gyfreithiol
Mae’r cynnwys hwn er gwybodaeth yn unig. Os oes gennych unrhyw bryderon cyfreithiol ynglŷn â chlymog Japan, rydym yn argymell eich bod yn derbyn cyngor cyfreithiol arbenigol.
Nid yw perchnogion tir yn tramgwyddo trwy gael clymog Japan ar eu tir, ac nid oes rhaid iddynt wneud hysbysiad o’i bresenoldeb.
Ond os yw’r clymog yn peri problemau, efallai bydd ateboliaeth sifil.
Mae deunydd gwastraff y planhigyn yn cael ei gyfrif fel ‘gwastraff a reolir’ yn ôl Deddf Amddiffyn yr Amgylchedd 1990, a dylid ei waredu mewn safle gwastraff trwyddedig. Os byddwch yn defnyddio cludwyr i symud y deunydd o’r safle, rhaid i chi sicrhau eu bod yn gludwyr gwastraff trwyddedig.
Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981
Rhestrir clymog Japan ar Atodlen 9 Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981, ac mae’n ddarostyngedig i Adran 14 y Ddeddf hon. Mae plannu’r rhywogaeth hwn, neu achosi iddo dyfu yn y gwyllt yn drosedd. Golyga hyn y gall achosi clymog Japan i ledaenu, er enghraifft, strimio neu gael gwared â deunydd heintiedig, gyfri fel trosedd. Gall gadael i glymog Japan ledaenu’n naturiol i dir cyfagos fod yn drosedd, ond nid yw hynny wedi’i brofi yn y llysoedd hyd yma.
Mae troseddau canclwm Japan yn cael eu gorfodi gan yr heddlu o dan Ddeddf 1981.
Felly os ydych chi’n gweld rhywun yn lledaenu clymog Japan yn fwriadol, cysylltwch â’ch gorsaf heddlu.
Os ydych angen rhagor o wybodaeth ynglŷn ag adran 14, cyfeiriwch ar y canllaw a roddir gan Lywodraeth Cymru a DEFRA.
Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014
Gall cynghorau lleol neu’r heddlu gyhoeddi Hysbysiad Gwarchod y Gymuned dan Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014. Mae modd cyhoeddi’r rhain i unigolion neu i sefydliadau i’w cymell i reoli rhywogaethau ymledol mewn sefyllfaoedd lle mae rhywogaethau ymledol yn cael effaith niweidiol ar ansawdd bywyd pobl eraill.
Nid CNC sydd yn cyhoeddi’r hysbysiadau. Cysylltwch â’ch heddlu neu’ch awdurdod lleol os oes angen mwy o wybodaeth arnoch chi. Dyma gymorth gan y Swyddfa Gartref.
Trin a rheoli clymog Japan
PEIDIWCH â strimio na thorri clymog Japan
Mae gwneud hyn yn debygol o gynyddu’r risg o ledaenu’r planhigyn, a gall hyn fod yn drosedd.
NID yw torri na phalu yn ddulliau effeithiol o reoli clymog Japan, ac mae angen treulio blynyddoedd yn gwneud hyn cyn iddynt gael unrhyw effaith. Mae gan glymog Japan system o wreiddgyffion tanddaearol helaeth allai fod sawl metr dan y ddaear. Mae’n hynod anodd i gloddio’r holl wreiddgyffion, a byddai’n debygol i wreiddgyffion gael eu gadael yn y ddaear gan achosi planhigion newydd i dyfu. Mae’r opsiynau hyn hefyd yn creu gwastraff sydd angen ei reoli, a byddai’n rhaid cael gwared ohono mewn modd penodol.
Y ffordd orau o reoli clymog Japan yw trwy ddefnyddio chwynladdwr addas.
Fel arfer, chwynladdwyr sy’n cynnwys glysoffad a ddefnyddir i drin clymog Japan. Os yw’r glysoffad yn cael ei ddefnyddio’n gywir, ar yr adeg gywir o’r flwyddyn, mae modd dadwreiddio clymog Japan (er y gallai gymryd 2-3 blynedd o driniaeth).
Rhaid defnyddio cynnyrch glyffosad proffesiynol, gan mai effaith bychan gaiff cynnyrch glysoffad a brynir mewn canolfannau garddio ac ati. Dim ond unigolion cymwys all ddefnyddio cynnyrch chwynladdwr proffesiynol, a rhaid iddynt feddu ar dystysgrif cymhwysedd y Cyngor Profi Medrusrwydd Cenedlaethol. Mae modd dod o hyd i weithredwr yn lleol neu drwy gyrff diwydiannol.
Rhaid taenu’r glysoffad ar ddiwedd yr haf/ dechrau’r hydref ar ôl i’r planhigyn flaguro. Gall defnyddio glysoffad yn gynharach atal y planhigyn rhag tyfu, ond ni fydd yn lladd y planhigyn. Bydd rhaid i glystyrau aeddfed o glymog Japan gael eu trin am ddwy neu dair blynedd er mwyn lladd y planhigyn (hynny yw, triniaeth unwaith y flwyddyn ar ddiwedd yr haf / dechrau’r hydref.
Os ydych yn bwriadu defnyddio chwynladdwyr ar leoliad sydd mewn dŵr, o fewn safle gwarchodedig, neu wrth ymyl safle echdynnu dŵr, bydd rhaid i chi gael caniatâd ysgrifenedig gan CNC.
Dyma ragor o wybodaeth ynglŷn ag ymgeisio am ganiatâd i ddefnyddio chwynladdwyr.
Ni ddylid compostio Clymog Japan oherwydd gall oroesi'r broses ac aildyfu o doriadau bach.
Sut y gallwch roi gwybod eich bod wedi gweld Clymog Japan
Os gwelwch y planhigyn cofnodwch hynny drwy dynnu llun ohono gan ddefnyddio'r ap iRecord (neu ffurflen ar-lein iRecord) neu ap LERC Cymru. Mae'r ddau ap yn rhad ac am ddim i'w lawrlwytho. Bydd cyflwyno cofnodion yn cyfrannu at well dealltwriaeth o ble mae rhywogaethau goresgynnol i’w cael yng Nghymru, sut maen nhw’n lledaenu a’u heffaith. Bydd yn bosibl gweld y cofnodion ar y Rhwydwaith Bioamrywiaeth Cenedlaethol Atlas Cymru.
Cyngor ar waredu deunydd halogedig
Mae Clymog Japan (neu ddeunydd halogedig) yn wastraff rheoledig. Os caiff ei symud oddi ar y safle, rhaid iddo gael ei gludo gan gludwr gwastraff cofrestredig a'i waredu mewn safle tirlenwi trwyddedig neu a ganiateir addas. Efallai y bydd angen i chi wirio eu bod yn derbyn y gwastraff.
Wrth drin neu gael gwared o blanhigion estron goresgynnol ar y safle bydd angen i chi wneud cais am drwydded gwastraff oni bai eich bod yn gallu dilyn yr amodau ym Mhenderfyniad Rheoleiddiol 058.2 CNC.
Er mwyn cael rhagor o wybodaeth am drin a gwaredu cysylltwch â'ch Tîm Amgylcheddol CNC lleol.
Gwybodaeth bellach
Am ragor o wybodaeth ynglŷn ag adnabod, rheoli, a chael gwared â chlymog Japan, yn ogystal â rheoliadau chwynladdwyr gweler y dolenni isod:
- Cyngor Llywodraeth Cymru ar rywogaethau planhigion estron goresgynnol gan gynnwys adnabod a rheoli Clymog Japan a chyngor rheoli Clymog Japan ar gyfer grwpiau gwirfoddol a chymunedol
- Mae gwefan Ysgrifenyddiaeth Rhywogaethau Estron Prydain Fawr yn ddefnyddiol ar gyfer gwybodaeth am rywogaethau Clymog Japan a sut i gynnal bioddiogelwch i atal ei ledaeniad.
- Gwefan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch ar gyfer gwybodaeth ar reoleiddio plaladdwyr
- Cod Ymarfer Rheoli Clymog Japan - Cymdeithas Gofal Eiddo
- Cod Ymarfer Clymog Japan INNSA