Dyfroedd Pysgod Cregyn a Ddiogelir
Mae’r Gyfarwyddeb Fframwaith Ddŵr yn gofyn am fanyleb o ardaloedd gwarchodedig ar gyfer yr ardaloedd hynny a ddynodwyd ar gyfer gwarchod rhywogaethau sy’n bwysig yn economaidd. Mae’r rhestr hon yn cynnwys yr ardaloedd gwarchodedig hynny a ddynodwyd yn flaenorol o dan Gyfarwyddeb Dyfroedd Pysgod Cregyn, a ddiddymwyd, ac sydd bellach wedi’u nodi o dan y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr
Mae’r rhestr hon yn cynnwys yr hyn gyfeiriwyd ato o dan y Rheoliadau’r Amgylchedd Dŵr (Y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr) (Cymru a Lloegr) (Diwygio) 2016’ sy’n dod i rym ar 3 Mawrth 2016. Yn unol â’r rheoliadau uchod, mae’r rhestr yn disodli’r hysbysiad a ddarparwyd i Cyfoeth Naturiol Cymru o dan y ddeddfwriaeth flaenorol, a elwid yn ‘Hysbysiad Dyfroedd Pysgod Cregyn (Cymru) 2013’
ATODLEN
Dyfroedd lled hallt ac arfordirol yng Nghymru sy’n perthyn i’r dosbarthiad Dyfroedd Pysgod Cregyn.