Gwrthod llwythi gwastraff peryglus

Mae'r canllaw hwn yn egluro'r rheolau ar gyfer y derbynnydd, y cludydd, y cynhyrchydd a'r deiliad o ran gwrthod gwastraff peryglus.

Gwiriwch y gwastraff a'r nodyn cludo cyn i chi ei dderbyn

Rhaid i chi wirio'r gwastraff a'r nodyn cludo cyn ei dderbyn.

Rhaid i chi wrthod y gwastraff os yw'r canlynol yn wir:

  • nid oes nodyn cludo
  • mae'r nodyn cludo yn anghyflawn neu'n anghywir – er enghraifft, mae’n nodi cod Catalog Gwastraff Ewropeaidd, disgrifiad neu faint anghywir
  • nid yw'r gwastraff wedi'i ganiatáu o dan eich trwydded amgylcheddol

Rhaid i chi benderfynu a ddylech dderbyn neu wrthod y gwastraff cyn i chi gwblhau Rhan E o'r nodyn cludo. Ar ôl i chi lofnodi i nodi eich bod yn derbyn y gwastraff, ni allwch wrthod y gwastraff yn ddiweddarach.

Gwrthod llwyth gyda nodyn cludo

Dilynwch bedwar cam i wrthod gwastraff gyda nodyn cludo. 

  1. Cwblhewch Ran E o'r nodyn cludo a chofnodwch beth sy'n cael ei wrthod a pham
  2. Cadwch un copi
  3. Rhowch un copi i'r cludydd
  4. Anfonwch gopïau at y traddodwr, y cynhyrchydd a'r deiliad cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol

Gwrthod llwyth heb nodyn cludo

Peidiwch â chreu nodyn cludo ar ôl i'r gwastraff gyrraedd.

Dilynwch bedwar cam i wrthod gwastraff heb nodyn cludo.

1. Crëwch gofnod gwrthod ysgrifenedig yn cynnwys:

  • y rheswm dros wrthod y gwastraff
  • disgrifiad o’r gwastraff / dosbarthiad y gwastraff, os ydych chi'n ei wybod
  • enwau'r cynhyrchydd, y deiliad, y traddodwr a'r cludydd
  • cyfeirnod unigryw yn y fformat canlynol: REJECT/XXXXX

2. Cadwch gopi o'ch cofnod gwrthod

3. Rhowch gopi o'r cofnod i'r cludydd

4. Anfonwch gopïau o'r cofnod at y cynhyrchydd, y deiliad a’r traddodwr cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol

Cyfrifoldebau cludwyr ar ôl i'r gwastraff gael ei wrthod

Hysbyswch y rheoleiddiwr cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol.

Cysylltwch â'r cynhyrchydd neu'r deiliad am gyfarwyddiadau (ynglŷn â beth). Cymerwch gamau rhesymol i ddilyn y cyfarwyddiadau hynny.

Cyfrifoldebau'r cynhyrchydd neu'r deiliad ar ôl i'r gwastraff gael ei wrthod

Eich blaenoriaeth yw dod o hyd i safle awdurdodedig arall cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol.

Gallwch wneud y canlynol:

  • anfon y gwastraff at dderbynnydd awdurdodedig arall
  • dychwelyd y gwastraff i'ch safle eich hun (fel arfer o fewn pum diwrnod busnes)
  • gofyn i'r derbynnydd gwreiddiol ei dderbyn

Bydd angen i chi greu llwyth newydd.

Derbyn gwastraff a wrthodwyd yn flaenorol

Dim ond os yw'r canlynol yn wir y gallwch dderbyn gwastraff a wrthodwyd sydd â nodyn cludo sydd ar goll, yn anghyflawn neu'n anghywir:

  • cofnodwyd y gwrthodiad gwreiddiol ar nodyn cludo arall
  • mae problemau wedi cael eu cywiro
  • mae eich trwydded yn caniatáu hynny

Rhaid cyhoeddi nodyn cludo newydd a chywir. Nid oes rhaid i chi ei dderbyn.

Pa mor fuan y mae'n rhaid i chi symud gwastraff

Rhaid cael gwared ar wastraff cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol os na ellir ei storio'n ddiogel neu'n gyfreithlon.

Fel arall, o fewn pum diwrnod busnes.

Rhaid i’r dull storio gydymffurfio ag amodau'r drwydded.

Cofnodi ac adrodd am wrthod llwythi

Rhaid i chi gofnodi llwythi a wrthodwyd ar eich ffurflen derbynnydd.

Ni chodir tâl am lwythi a wrthodwyd (dylid cofnodi hyn yn glir gan ddefnyddio'r fformat safonol a gofnodwyd yn y nodyn cludo fel y cyfeirir ato yn Adran 2).

Os caiff ei dderbyn yn ddiweddarach, cofnodwch y llwyth fel llwyth ar wahân.

Gwrthod rhan o lwyth

Gallwch wrthod rhan o lwyth os yw gwahanol fathau o wastraff yn hawdd eu hadnabod a’u gwahanu.

Dilynwch y gweithdrefnau gwrthod ar gyfer gwastraff a wrthodwyd a'r gweithdrefnau arferol ar gyfer gwastraff a dderbynnir.

Os yw gwahanol mathau o wastraff wedi’u cymysgu neu na ellir eu cysylltu â llwythi, gwrthodwch yr holl wastraff.

Diweddarwyd ddiwethaf