Cyfleusterau deunyddiau - gwirio, hysbysu, samplu ac adrodd

Os ydych yn gweithredu cyfleuster gwastraff a ganiateir yng Nghymru, rhaid i chi:

  • roi gwybod i ni am eich manylion hunanasesiad
  • talu ffi i ni
  • samplu gwastraff sy'n dod i mewn ac sy’n mynd allan
  • dadansoddi cyfansoddiad samplau
  • adrodd ar ganlyniadau i ni bob chwarter

Cwblhau hunanasesiad

Rhaid i chi wirio a yw'ch cyfleuster gwastraff yn bodloni'r diffiniad o 'gyfleuster deunyddiau' ('materials facility' yn Saesneg)

Dylech gwblhau hunanasesiad ar ddechrau pob cyfnod adrodd. 

Y pedwar cyfnod adrodd yw:

  • 1 Ionawr i 31 Mawrth
  • 1 Ebrill i 30 Mehefin
  • 1 Gorffennaf i 30 Medi
  • 1 Hydref i 31 Rhagfyr

Rhoi gwybod am eich manylion hunanasesiad

Os yw'ch hunanasesiad yn dangos bod eich cyfleuster yn bodloni'r diffiniad o gyfleuster deunyddiau, rhaid i chi ddweud wrthym erbyn diwedd y cyfnod adrodd.

Dylech hefyd ddweud wrthym os yw eich hunanasesiad yn dangos nad yw'ch cyfleuster bellach yn bodloni'r diffiniad o gyfleuster deunyddiau.

Efallai y byddwn yn gofyn am dystiolaeth gan weithredwyr y credwn sy'n bodloni'r diffiniad o gyfleuster deunyddiau ond nad ydynt wedi cyflwyno hysbysiad i ni. 

Samplu a mesur y gwastraff

Yn dibynnu ar eich gweithgareddau bydd angen i chi gymryd samplau a mesuriadau o ddeunyddiau gwastraff sy'n dod i mewn ac yn mynd allan. 

Darganfyddwch sut i gymryd samplau o ddeunyddiau gwastraff. 

Bydd yn rhaid i chi lunio methodoleg samplu ysgrifenedig. Rhaid i hyn egluro sut y byddwch yn bodloni'r gofynion samplu. 

Rhoi gwybod am eich data

Rhaid i chi gyflwyno'ch data i ni ar gyfer pob cyfnod adrodd. Rhaid i hyn fod o fewn mis i ddiwedd pob cyfnod adrodd.

Darganfyddwch pa ddata sydd ei angen arnom. 

Pan fyddwch yn ein hysbysu bod eich cyfleuster yn dod o fewn y diffiniad o gyfleuster deunyddiau, byddwn yn darparu fformat electronig i chi i adrodd eich data. 

Talu ffi

Byddwn yn codi ffi cynhaliaeth flynyddol arnoch.

Darganfyddwch pa ffioedd y mae'n rhaid i chi eu talu. 

Sut rydym yn rheoleiddio cyfleusterau deunyddiau

Byddwn yn rheoleiddio cyfleusterau deunyddiau i:

  • wirio’ch methodoleg samplu
  • arsylwi eich gweithgareddau samplu
  • archwilio'r data rydych wedi adrodd, a’u cymharu â’r hyn a welwn ar y safle

Amserlenni

Os bydd dulliau priodol yn cael eu defnyddion fe dderbyniwch chi gydnabyddiaeth.

Os nad yw'r dulliau cywir yn cael eu defnyddio, byddwn yn rhoi gwybod i chi pa welliannau sydd angen eu gwneud. 

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf