Fel deiliad tŷ, mae gennych ddyletswydd gofal gwastraff. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i chi drosglwyddo eich gwastraff i rywun sydd wedi'i awdurdodi'n briodol i'w dderbyn.

Nid sbwriel wythnosol arferol yw eich gwastraff ond mae'n cynnwys dodrefn, eitemau trydanol, gwastraff adeiladu a gwastraff gwyrdd.

Drwy sicrhau bod gwastraff yn cael ei drin yn ddiogel a'i drosglwyddo i bobl sydd ag awdurdod i'w dderbyn yn unig, gallwn ddiogelu'r amgylchedd ac iechyd pobl.

Trefnu i rywun fynd â'ch gwastraff oddi arno

Os ydych chi’n defnyddio busnes preifat, fel cwmni llogi sgipiau neu gwmni sy’n clirio tai, i fynd â’ch gwastraff, rhaid i chi wirio eu bod yn gludwr gwastraff cofrestredig haen uwch.

Os bydd elusen, sefydliad gwirfoddol neu awdurdod lleol yn casglu eich gwastraff, gallant wneud hynny gyda chofrestriad haen is.

 

Gwastraff o waith ar eich eiddo

Os oes crefftwr yn gwneud gwaith ar eich eiddo, mae ef yn gyfrifol am y gwastraff y mae'n ei gynhyrchu, gan gynnwys ei gludo a'i waredu.

Er enghraifft, os yw trydanwr yn amnewid hen focs ffiwsys neu osodiadau golau am rai newydd, rhaid iddo gael gwared â'r gwastraff er mwyn cydymffurfio â rhwymedigaethau ei ddyletswydd gofal ar gyfer y gwastraff hwnnw.

Gwiriwch y gofrestr gyhoeddus o gludwyr gwastraff, broceriaid a delwyr.

Gwaredu eich gwastraff tŷ

Cyn i chi fynd â’ch gwastraff eich hun i ganolfan gwastraff tŷ ac ailgylchu’r awdurdod lleol, gofynnwch iddynt a ydynt yn gallu derbyn y math hwn o wastraff.

Os ydych am fynd â’ch gwastraff i safle sy’n cael ei redeg gan fusnes preifat, gwiriwch a ydyn nhw’n ymddangos ar ein cofrestr gyhoeddus o safleoedd gwastraff a ganiateir.

Gwastraff asbestos

Weithiau, bydd awdurdodau lleol yn derbyn gwastraff asbestos. Cysylltwch â'ch awdurdod lleol am fanylion.

Cadw cofnodion

Nid yw'n ofynnol yn gyfreithiol i chi gadw tystiolaeth eich bod wedi gwirio a yw cludwr gwastraff neu safle wedi'i gofrestru. Serch hynny, os yw’r person sy’n ei gasglu yn tipio’ch gwastraff yn anghyfreithlon, gall cofnodion rydych chi’n eu cadw ddangos eich bod wedi cyflawni’ch dyletswydd gofal. Bydd y cofnodion hyn hefyd yn helpu’r awdurdodau i adnabod y rhai sy’n gyfrifol.

Byddem yn eich cynghori i gadw’r canlynol:

  • Cofnod o unrhyw wiriadau rydych chi’n eu gwneud, gan gynnwys rhif cofrestru, trwydded neu eithriad y gweithredwr gwastraff

  • Derbynneb am y trafodiad sy’n cynnwys manylion busnes gweithredwr gwastraff cofrestredig

  • Manylion y busnes neu unrhyw gerbyd a ddefnyddir (rhif cofrestru, gwneuthuriad, model, lliw) y gellir ei gysylltu’n ôl â gweithredwr gwastraff awdurdodedig
Fel deiliad tŷ, nid oes angen i chi gwblhau nodyn trosglwyddo gwastraff pan fyddwch chi’n trosglwyddo gwastraff i berson arall.

Taclo Tipio Cymru

I wybod sut i gael gwared ar sbwriel yn ddiogel, yn gyfreithlon a chyfrifol, ewch i wefan Taclo Tipio Cymru.

Cod ymarfer y ddyletswydd gofal gwastraff

Darllenwch fwy am fodloni gofynion cod ymarfer y ddyletswydd gofal gwastraff (Saesneg in unig). 

Diweddarwyd ddiwethaf