Pam y gallwn atal neu ddirymu eich trwydded cwympo coed
Rhesymau dros atal neu ddirymu trwydded
Gallwn atal neu ddirymu eich trwydded cwympo coed os nad ydych wedi cydymffurfio neu os nad ydych yn cydymffurfio ar hyn o bryd ag amodau’r drwydded ac y gallai hyn beri niwed sylweddol i:
- harddwch naturiol
- fflora
- ffawna
- nodweddion daearegol neu ffisiograffigol
- cynefinoedd naturiol
Mae hyn ond yn berthnasol i bob cais am drwydded cwympo coed a dderbyniwyd ar neu ar ôl 1 Ebrill 2024.
Ceir gwybodaeth fanylach am atal a dirymu trwydded cwympo coed yn y Canllawiau i Ymgeiswyr a Deiliaid Trwyddedau - amodau diwygio atal, dirymu ac iawndal, dylid darllen y canllawiau hyn ar y cyd â'r wybodaeth ar y dudalen hon.
Cyn atal neu ddirymu
Rydym am eich cefnogi i gydymffurfio â'ch trwydded. Byddwn yn ceisio gweithio gyda chi yn gyntaf i fynd i'r afael ag unrhyw achosion o dorri amodau amgylcheddol eich trwydded neu unrhyw risgiau i'r amgylchedd.
Cyn ystyried atal neu ddirymu eich trwydded byddwn yn:
- rhoi gwybod i chi nad ydych yn cydymffurfio â’r amodau
- rhoi gwybod i chi lle mae perygl o ddifrod sylweddol i fywyd gwyllt neu’r amgylchedd
- eich gwahodd i drafod sut y gallwch fynd i'r afael â'r mater
- rhoi cymorth, arweiniad a chyngor i chi gydymffurfio ag amodau eich trwydded neu reoli unrhyw risgiau, lle bo hynny’n briodol
- nodi pam mai’r camau hyn yw’r unig opsiynau i atal y difrod amgylcheddol a ragwelir
- rhoi amser i chi reoli’r safle er mwyn cydymffurfio ag amodau’r drwydded
- ymgynghori â'n tîm cyfreithiol, yn dibynnu ar frys y risg i'r amgylchedd
Atal trwydded
Byddwn yn atal trwyddedau yn yr amgylchiadau canlynol yn unig:
- nid yw diwygiad i amodau eich trwydded cwympo coed wedi datrys y mater
- mae damwain neu ddigwyddiad yn peri i weithrediadau sy'n gysylltiedig â'ch trwydded cwympo coed achosi difrod i'r amgylchedd
- rydych wedi methu â chydymffurfio ag amodau’r drwydded cwympo coed
- mae sensitifrwydd newydd yn cael ei nodi ar eich safle sy'n ei gwneud yn ofynnol i ni adolygu amodau'r drwydded
- ni allwn gytuno ar ffordd ymlaen
- nid oes unrhyw opsiynau eraill ar gael
Tra bod eich trwydded wedi’i hatal gallwn:
- ymchwilio i achosion o dorri amodau amgylcheddol y drwydded
- ceisio cytuno ar gamau gweithredu i chi fynd i'r afael ag unrhyw achosion o dorri amodau neu unrhyw risgiau amgylcheddol
Efallai y byddwn yn codi'r ataliad cyn yr amserlen y cytunwyd arni os ydych chi wedi sicrhau bod y safle’n cydymffurfio eto, a hynny yn gynt nag y cytunwyd arno
Rhaid i chi atal pob gweithrediad tra bod hysbysiad atal dros dro yn ei le. Mae'n drosedd cyflawni unrhyw weithrediadau yn yr ardal a nodir yn yr hysbysiad atal dros dro.
Dirymu trwydded
Byddwn yn dirymu trwydded cwympo coed yn yr amgylchiadau canlynol:
- ni allwch fodloni'r gofynion diwygio neu atal
- ni allwch ddatrys risgiau yr ydym wedi'u nodi
- mae perygl parhaus o ddifrod sylweddol i'r amgylchedd, megis llygredd
- rydych wedi parhau i beidio â chydymffurfio ag amodau eich trwydded
Mae’n drosedd cwympo coed os caiff eich trwydded ar gyfer yr ardal honno ei dirymu.
Cyflwyno hysbysiad
Os byddwn yn atal neu'n dirymu eich trwydded, byddwn yn cyflwyno hysbysiad.
Bydd yr hysbysiad yn cynnwys:
- y rheswm dros atal neu ddirymu eich trwydded
- yr amod yn y drwydded yr ydych wedi ei dorri
- esboniad o pam mai dyma'r unig gam gweithredu sydd ar gael i atal difrod amgylcheddol
- y dyddiad y daw’r hysbysiad i rym
- camau y mae'n rhaid i chi eu cymryd i unioni achos gwirioneddol neu achos posibl o dorri amodau’r drwydded
- dyddiad cau i chi gymryd y camau a nodir yn yr hysbysiad atal dros dro
- unrhyw weithgareddau y gallwch eu gwneud ar y safle i sicrhau eich bod yn dilyn gofynion iechyd a diogelwch
- manylion am sut i apelio
Apelio yn erbyn penderfyniad
Apelio penderfyniad i atal neu ddiddymu eich trwydded:
Deddf Coedwigaeth 1967: apelio