Gwirio a oes angen cynllun rheoli coedwig arnoch
Mae cynllun rheoli coedwig yn disgrifio’r ffordd rydych chi fel perchennog coetir preifat yn bwriadu rheoli eich coedwig neu goetir mewn ffordd gynaliadwy dros gyfnod o bump i ddeg mlynedd.
Mae cael cynllun cymeradwy yn golygu nad oes angen i chi wneud cais am drwydded cwympo coed bob tro y bydd angen i chi gwympo coed ar eich tir.
Pryd y gallai fod angen cynllun rheoli coedwig arnoch
Dylech ystyried gwneud cais am gynllun rheoli coedwig os ydych chi’n gwneud y canlynol:
- rheoli llennyrch lluosog dros gyfnod hwy o amser
- rheoli cyfuniad o weithgarwch cwympo a theneuo coed
- rheoli coetir sydd ag elfennau sensitifrwydd y mae angen rheolaeth tymor hwy arnynt
- rheoli gweithrediadau sy'n fwy cymhleth neu sy'n cynnwys ailstrwythuro
- gwneud cais am gynlluniau grant Llywodraeth Cymru
Pryd y gallai trwydded cwympo coed fod yn well
Mae trwydded cwympo coed yn ffordd symlach o gael caniatâd i gwympo coed:
- os nad oes gan eich coetir gymhlethdodau sy'n gofyn am reolaeth hirdymor
- os yw'r gweithrediadau arfaethedig yn gymharol syml ac yn fyrdymor
Archwilio mwy
Diweddarwyd ddiwethaf