Gwneud cais am drwydded cwympo coed
Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i wneud cais am drwydded cwympo coed
Cyn dechrau
Bydd angen i chi roi'r wybodaeth ganlynol i ni:
- enw llawn, cyfeiriad a manylion cyswllt perchnogion y tir neu ddeiliaid y brydles
 - enw'r coetir, y dref neu'r pentref agosaf, y sir, a’r cyfeirnod grid
 - manylion am unrhyw goed llarwydd ar y safle lle’r ydych yn bwriadu cwympo’r coed
 - manylion am y gwaith cwympo, teneuo, neu ailstocio
 - mapiau yn dangos yr ardaloedd lle’r ydych yn bwriadu cynnal gwaith cwympo, teneuo neu ailstocio
 
Os ydych yn gwneud cais fel asiant, bydd angen i chi hefyd nodi:
- enw eich sefydliad
 - eich enw llawn
 - eich cyfeiriad
 - eich manylion cyswllt
 
Cwympo coed ar eich safle
Os ydych yn cwympo coed ar eich safle, bydd angen i chi hefyd nodi:
- sut byddwch yn rheoli eich gwaith cwympo (rhaid i hyn fod yn unol â Safon Coedwigaeth y DU)
 - oedran y coed
 - cyfanswm y coed ydych yn bwriadu eu cwympo
 - amcangyfrif o gyfaint y coed gan ddefnyddio'r Cyfrifydd Cyfaint Pren
 - dyddiad dechrau a gorffen y gwaith cwympo
 - y math o waith cwympo (e.e. llwyrgwympo)
 
Coed wedi'u chwythu i lawr gan y gwynt
Mae angen trwydded o hyd ar gyfer:
- torri coed sydd wedi’u chwythu i lawr ond sy'n dal i sefyll ar ongl (ond nodwch y gall yr eithriad 'coed peryglus a niwsans' fod yn berthnasol)
 - torri coed i greu ymyl sy'n gadarn rhag y gwynt
 
Teneuo eich safle
Os ydych chi'n teneuo coed ar eich safle (i agor mwy o le i’r coed sy'n weddill dyfu), bydd angen i chi hefyd nodi:
- y dyddiad y teneuwyd y safle ddiwethaf
 
Ailstocio eich safle
Os ydych yn ailstocio (yn ailblannu coed newydd yn yr ardal lle’r ydych am gwympo coed), bydd angen i chi hefyd nodi:
- sut byddwch yn rheoli’r gwaith ailstocio (rhaid i hyn fod yn unol â Safon Coedwigaeth y DU)
 - yr ardal ydych yn bwriadu ei hailstocio â choed
 - yr ardal ydych yn bwriadu ei chadw fel tir agored
 - nifer y coed ydych yn eu plannu
 - enw a chanran pob rhywogaeth o goed
 - y dull ailstocio (er enghraifft, plannu)
 - cyfansoddiad eich coetir os nad ydych yn dilyn Safon Coedwigaeth y DU
 
Dogfennau i'w uwchlwytho
Bydd angen i chi uwchlwytho rhai neu bob un o'r dogfennau canlynol gyda’ch cais:
- map cwympo neu ailstocio
 - taenlen cwympo coed os ydych yn bwriadu cwympo coed ar eich safle
 - taenlen ailstocio os ydych yn bwriadu ailstocio eich safle
 - asesiad o gyfansoddiad y coetir (os nad yw’r gwaith ailstocio yn bodloni gofynion Safon Coedwigaeth y DU)
 - unrhyw gyngor a gawsoch gan CADW, gallai hyn fod yn ymateb i ymgynghoriad neu'n gydsyniad heneb gofrestredig
 - llythyr penderfyniad yr Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol gennym ni os nad ydych yn bwriadu ailstocio’r safle
 - tystiolaeth o'ch trafodaeth gyda'r swyddog rheoleiddio coetir, os nad ydych yn bwriadu ailstocio'r safle
 - map yn dangos pa ardal amgen yr ydych yn bwriadu ei hailstocio
 - asesiad rheoliadau cynefinoedd
 
Creu map o'ch safle
Defnyddiwch Syllwr Map Rhyngweithiol CNC i gynhyrchu eich mapiau i gefnogi eich cais am drwydded torri coed.
Rhaid i'ch map:
- defnyddio graddfa heb fod yn fwy na 1:10,000
 - dangos y raddfa ar y map
 - cynnwys yr wybodaeth ddiweddaraf
 - dangos yr holl ddata sylfaenol
 - dangos y pwynt mynediad i'r ardal lle caiff y coed eu cwympo, gan gynnwys y cyfeirnod grid
 - dangos yr ardal gwympo, teneuo neu ailstocio yn glir, gan gynnwys y cyfeirnod grid
 
Gwneud cais am drwydded cwympo coed
Amserlenni
Byddwn yn cydnabod ein bod wedi derbyn eich cais o fewn tri diwrnod gwaith.
Byddwn yn trefnu ymweliad safle o fewn tair wythnos, os bydd angen.
Bydd manylion eich cais yn cael eu rhoi ar y gofrestr o drwyddedau cwympo coed am bedair wythnos.
Ni allwn roi trwydded cwympo coed i chi nes bod y cyfnod hwn o bedair wythnos ar y gofrestr wedi dod i ben.
Os yw eich cais ar gyfer teneuo yn unig neu os yw eich safle yn cynnwys coed llarwydd, ni fyddwn yn rhoi’r manylion ar y gofrestr gyhoeddus.
Efallai y byddwn yn ymgynghori ag awdurdodau lleol a sefydliadau eraill ynglŷn â’ch cais.
Byddwn yn rhoi gwybod i chi o fewn 13 wythnos os yw eich trwydded am gwympo coed wedi bod yn llwyddiannus.