Diwygio eich cynllun rheoli coedwig
Efallai y byddwch chi’n gallu gwneud rhai newidiadau i’ch cynllun rheoli coedwig fel:
- diweddaru manylion cyswllt neu berchnogaeth
- diwygio eich rhaglen waith (diwygiad technegol)
- newid amodau trwydded cwympo coed
Diweddaru manylion cyswllt neu fanylion perchnogaeth
Mae caniatâd cwympo coed a ddyroddwyd fel rhan o'ch cynllun rheoli cymeradwy yn berthnasol i'r tir waeth pwy yw ei berchennog. Mae'n parhau mewn grym, ynghyd ag unrhyw amodau, ar ôl i'r tir gael ei werthu.
Rhaid ailstocio a chynnal unrhyw ardaloedd sy'n cael eu cwympo am ddeg mlynedd. Os byddwch chi'n gwerthu eich tir, rhaid i chi roi gwybod i ni pryd y cafodd ei werthu a manylion y perchennog newydd. Rhaid i chi hefyd hysbysu'r perchennog newydd am y caniatâd cwympo coed.
Dweud wrthym beth rydych chi am ei newid
Gwneud diwygiadau i'ch rhaglen waith (diwygiadau technegol)
O ystyried natur hirdymor eich cynllun rheoli coedwig, rydym yn cydnabod y gallai fod angen i chi wneud diwygiadau i'ch rhaglen waith.
Mae eich cytundeb rheoli tir yn cynnwys ‘tabl goddefiannau’ sy'n disgrifio'r categorïau diwygio sy'n berthnasol i'ch cynllun.
Categorïau diwygio
Mae tri chategori o ddiwygiad technegol, wedi'u cynllunio i roi hyblygrwydd gweithredol i chi wrth gyflawni eich cynllun rheoli coedwig.
Mae'r categorïau'n berthnasol ar lefel y llannerch i weithrediadau teneuo coed, cwympo coed ac ailstocio.
Categori 1
Nid oes angen i chi roi gwybod i ni am ddiwygiadau Categori 1. Gellir cynnal y rhain heb gymeradwyaeth gennym ni. Cadwch gofnodion o unrhyw ddiwygiadau a'u cynnwys yn eich ffurflen adolygu Blwyddyn 5.
Categori 2
Rhaid i chi roi gwybod i ni am ddiwygiadau Categori 2 yr hoffech eu gwneud.
Os ydym o'r farn nad yw'r diwygiad arfaethedig yn bodloni gofynion Safon Coedwigaeth y Deyrnas Unedig, efallai y bydd angen i chi gyflwyno tystiolaeth ychwanegol neu gwblhau cais Categori 3 am ddiwygiad ffurfiol. Mae enghreifftiau’n cynnwys y canlynol:
- pan allai fod angen mapio gofodol pellach i asesu effaith cynigion cwympo coed mewn ardaloedd sy'n dueddol o brofi llifogydd
- pan fo angen asesu trothwyon dal dŵr er mwyn sicrhau bod asesiadau llwyth critigol yn cael eu cwblhau
- pan nad yw cofnodion bioamrywiaeth ar gael i'r cyhoedd
Dweud wrthym beth rydych chi am ei newid
Categori 3
Rhaid i chi roi gwybod i ni eich bod am wneud diwygiad Categori 3. Byddwn yn anfon ffurflen atoch i wneud cais am ddiwygiad ffurfiol.
Byddwn yn penderfynu a oes angen i'ch diwygiad fynd yn ôl ar y gofrestr gyhoeddus.
Dweud wrthym beth rydych chi am ei newid
Newid amodau caniatâd cwympo coed cymeradwy
Mae'n bosibl y bydd achosion pan na fydd amodau eich caniatâd cwympo coed cymeradwy yn briodol mwyach. Er enghraifft, efallai fod amodau'r safle wedi newid ers cynnal gwaith cwympo coed neu efallai fod yr ailstocio wedi methu'n rhannol, gan adael man agored.
Nid oes yr un ddarpariaeth yn Neddf Coedwigaeth 1967 i ddiwygio amodau caniatâd cwympo coed, ond, lle bo'n briodol, gallem ddewis gwneud hynny ar sail egwyddorion rhesymolrwydd y gyfraith gyhoeddus, ystyriaeth i'r ffeithiau perthnasol, a phan fydd y ddwy ochr yn cytuno'n llawn â'r diwygiad.
Rhaid i chi roi gwybod i ni os ydych chi am newid yr amodau. Byddwn yn ystyried eich cais ac, os yw'n briodol, yn gweithio gyda chi i gytuno ar ddiwygiad.
Mae'n bosibl y bydd angen i'ch diwygiad fynd yn ôl ar y gofrestr gyhoeddus yn dibynnu ar raddfa neu natur eich gwaith arfaethedig.