Hela eithriedig ar dir yr ydym yn ei reoli
Mae'n anghyfreithlon hela mamaliaid gwyllt gyda chŵn yng Nghymru.
Mae yna esemptiadau sy'n caniatáu hela ar gyfer rhai mathau o reolaeth heb greulondeb. Gelwir hyn yn hela eithriedig.
Mae esemptiadau yn cynnwys canlyn a chodi mamaliaid gwyllt (gan gynnwys llwynogod) gan ddefnyddio dim mwy na dau gi. Dim ond i atal neu leihau difrod difrifol y byddai’r mamaliaid gwyllt yn ei achosi i dda byw, adar hela neu adar gwyllt y gall hyn ddigwydd.
Edrychwch ar y rhestr lawn o esemptiadau a restrir yn Neddf Hela 2004.
Weithiau mae angen rheoli poblogaethau o rai mathau o famaliaid gwyllt er mwyn diogelu ein gallu i gyflawni ein hamcan rheoli tir. Mae hyn yn cynnwys gwarchod rhywogaethau a chynefinoedd gwarchodedig a chapasiti cynhyrchu.
Mae gennym hefyd gyfrifoldeb cyfreithiol i alluogi gwaith i reoli poblogaethau rhai mamaliaid gwyllt ar y tir rydym yn ei reoli a allai achosi difrod i dda byw neu gnydau cymdogion sy’n ffermio.
Ni chaniateir hela eithriedig ar unrhyw ran o’r tir rydym yn ei reoli heb ganiatâd penodol.
Bydd yr holl drwyddedau a roddir ar gyfer hela eithriedig yn berthnasol i ardaloedd sydd wedi'u diffinio'n glir ac y gellir eu rheoli. Byddwn yn monitro'r trwyddedau hyn o bryd i'w gilydd i sicrhau y cedwir at y telerau.
Rhoi gwybod am hela anghyfreithlon
Os ydych yn credu bod gweithgaredd anghyfreithlon yn digwydd ar dir yr ydym yn ei reoli, rhowch wybod am ddigwyddiad ar-lein neu ffoniwch 03000 65 3000.
Efallai y byddwch hefyd am drosglwyddo tystiolaeth i'r heddlu.