Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yw’r Awdurdod Cymwys ar gyfer gweithredu’r Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr yng Nghymru. Ni sydd yn gyfrifol am lunio’r Cynlluniau Rheoli Basn Afon- mewn cydweithrediad ag ystod eang o sefydliadau gwirfoddol, preifat, a chyhoeddus (gan gynnwys cwmnïau dŵr, awdurdodau lleol, cyrff anllywodraethol, busnesau, a diwydiannau). CNC sy’n arwain datblygiad y cynllun ar gyfer Rhanbarthau Basn Afon Dyfrdwy a Gorllewin Cymru, ac maent yn gweithredu ar y cyd ag Asiantaeth yr Amgylchedd, arweinwyr Rhanbarth Basn Afon Hafren.  

Cyhoeddwyd yr ail gyfres o Gynlluniau Rheoli Basn Afon yn 2015.

Amlinellwyd yr hyn fyddai’n cael ei wneud i warchod a gwella amgylcheddau dyfrol dros gyfnod o chwe blynedd, gan gyrraedd 2021. Rydym bellach yn ceisio gwella a diweddaru ein cynlluniau ar gyfer y cyfnod rhwng 2021 a 2027, i’w cymeradwyo gan Weinidogion cyn eu cyhoeddi ym mis Rhagfyr 2021.  

Yr Ymgynghoriad Cydweithio yw’r ymgynghoriad statudol cyntaf yn yr arweiniad at gyhoeddiad y Cynlluniau Rheoli Basn Afon newydd, bydd ynddo Ddatganiad o Gamau ac amserlen ar gyfer trydydd cylchred y Cynlluniau. 

Byddai’n dda gennym glywed eich barn ynglŷn â sut hoffech chi fod yn rhan o ddatblygiad y Cynlluniau Rheoli Basn Afon nesaf.

Sut i ymateb:

Hoffwn i chi gwblhau cwestiynau’r ymgynghoriad. Gellir e-bostio neu bostio’r ffurflen i’r cyfeiriad isod.

E-bost: WFDWales@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Post: Jill Brown, Cyfoeth Naturiol Cymru, Tŷ̂ Cambria, 29 Heol Casnewydd, Caerdydd  CF24 0TP

Caiff ymgynghoriad Asiantaeth yr Amgylchedd ei gyhoeddi ar eu gwefan.

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Ffurflen Ymateb WORD [182.3 KB]
Cynlluniau Rheoli Basn Afon 2021 – 2027 Ymgynghoriad Gweithio gyda'n Gilydd PDF [573.3 KB]