Ymgynghoriad anffurfiol : Canllawiau Cynllun Atal a Lliniaru Tân – Rheoli Gwastraff

Mae’r ddogfen arweiniol hon wedi ei llunio gan Cyfoeth Naturiol Cymru mewn cydweithrediad â Gwasanaethau Tân ac Achub Cymru:

  • Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru
  • Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru a
  • Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru

Bydd CNC a Gwasanaethau Tân ac Achub Cymru yn defnyddio’r canllawiau hyn i asesu pa mor addas a phriodol yw camau atal a lliniaru tân mewn cyfleusterau gwastraff a ganiateir.

Cynhyrchwyd y canllaw hwn gan ddefnyddio profiad cynyddol o’r diwydiant a’r Gwasanaeth Tân ac Achub wrth ymladd tanau gwastraff go iawn, a gwybodaeth well a gafwyd o ganlyniad i gyfres o brofion llosgi a wnaed yn 2015 a thrwy gydol 2016 gan WISH (Fforwm Diogelwch ac Iechyd y Diwydiant Gwastraff) gyda chefnogaeth CFOA (Cymdeithas y Prif Swyddogion Tân).

Os hoffech wneud sylwadau ar y canllawiau arfaethedig hyn, ysgrifennwch atom erbyn 11 Awst 2017.  Dylid anfon sylwadau i:

John Rock
Cyfoeth Naturiol Cymru
Parc Busnes Llaneirwg
Heol Fortran
Llaneirwg
Caerdydd
CF3 0EY

Neu john.rock@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk