Bydd yr ymgynghoriad 12 wythnos hwn yn dod i ben ar 13 Ionawr 2017 a defnyddir y canlyniadau wrth lunio ein cynllun terfynol, a gyflwynir o 1 Ebrill 2017.

Yn unol â gofynion y Llywodraeth, mae'n rhaid i ni adennill costau cyflenwi ein gwasanaethau rheoleiddio oddi wrth y rhai sy’n cael eu rheoleiddio gennym, yn hytrach na chael ein hariannu trwy drethu cyffredinol. Y costau hyn sy’n gyfrifol am tua 20% o gyfanswm cyllid Cyfoeth Naturiol Cymru. Rydym yn agored a thryloyw ynglŷn â’r ffordd y mae ein ffioedd a’n taliadau’n cael eu strwythuro, yn ogystal â sut mae’r arian a gesglir yn cael ei ddefnyddio wedyn.  

Mae ein cynllun ffioedd a thaliadau’n cael ei adolygu’n rheolaidd i sicrhau bod ein costau’n cael eu talu a’n gofynion technegol yn cael eu cwrdd. O ganlyniad i’n hadolygiad diweddaraf, rydym yn cynnig cynnal lefelau cyfredol ein taliadau sylfaenol, heblaw am daliadau tynnu dŵr, a gwneud rhai newidiadau i drefniadau codi tâl cyfredol. Rydym hefyd yn cynnig cyflwyno taliadau am gytundebau cronfeydd dŵr a gwasanaethau cynghori dewisol.  

Sut i ymateb

Dylech anfon eich sylwadau , gan ddefnyddio’r ffurflen isod, erbyn 5pm ar 13 Ionawr 2017.

Gallwch ymateb yn y ffyrdd canlynol: 

Ebost:
feesandchargesconsultation@naturalresourceswales.gov.uk

Post:
Ymateb i Ymgynghoriad Taliadau
Cyfoeth Naturiol Cymru
Tŷ Cambria
29 Heol Casnewydd
Caerdydd
CF24 0TP

 

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Ffurflen ymateb WORD [107.0 KB]