Rydym wrthi'n cynnal adolygiad ffurfiol o'n polisi ar y defnydd o arfau tanio a gweithgareddau saethu ar y tir rydym yn ei reoli. 

Mae'r adolygiad yn cael ei gynnal oherwydd deddfwriaeth newydd a gyflwynwyd yng Nghymru ac yn sgil pryderon gan randdeiliaid. Os caiff arfau tanio eu defnyddio ar y tir rydym yn ei reoli, rydym am sicrhau y cânt eu defnyddio am y rhesymau cywir, dan yr amgylchiadau cywir ac yn y ffordd orau posibl. 

Caiff arfau tanio eu defnyddio at dri diben bras ar y tir rydym yn ei reoli:

  • Caiff arfau tanio eu defnyddio gennym i reoli rhywogaethau gwyllt sy'n effeithio ar ein hamcanion;
  • Caiff arfau tanio eu defnyddio gan bobl eraill i reoli rhywogaethau gwyllt sy'n effeithio ar amcanion rheoli tir ein cymdogion;
  • Caiff ein tir ei brydlesu ar gyfer saethu anifeiliaid hela a gweithgareddau eraill sy'n defnyddio arfau tanio 

Nod yr ymgynghoriad hwn yw deall eich barn chi am ein cynigion drafft a ph'un a oes unrhyw faterion eraill rydych yn credu y dylem fod yn eu hystyried. 

Byddwn yn defnyddio hyn i lywio'r gwaith o ddatblygu datganiad sefyllfa ar y defnydd o arfau tanio ar y tir rydym yn ei reoli.