Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn hysbysu ei fod yn bwriadu cynnal gwaith gwella ar Lifddor Lanwol Pont Robin ar Ffos Pont Robin yn Rhuddlan (NGR SJ 01612 78246). Bydd y gwaith gwella arfaethedig yn cynnwys y canlynol: ailosod fflap yr ollyngfa gyda llifddor lanwol newydd sy'n hongian o'r ochr, gwaredu ar blatfformau a sgriniau anniogel presennol er mwyn caniatáu i weddillion afon basio drwyddynt, gosod pibellau llif wrth gefn newydd, gosod offer telemetreg ar lefel yr afon, a gosod camerâu bach sy'n wynebu'r cwrs dŵr. 

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru o'r farn na fydd y gwaith gwella yn debygol o gael effaith sylweddol ar yr amgylchedd ac nid ydym yn bwriadu paratoi datganiad amgylcheddol mewn perthynas ag ef. Er na fydd datganiad amgylcheddol yn cael ei gyflwyno, mae dyluniad y cynllun wedi ystyried y ffactorau amgylcheddol sy'n gysylltiedig â'r safle ac wedi ymgorffori gwelliannau amgylcheddol lle bo hynny'n ymarferol. Gellir gweld dyluniad y cynllun yn Nepo Rhuddlan Cyfoeth Naturiol Cymru, Ffordd Abergele, Rhuddlan, Y Rhyl, LL18 5UE, rhwng 10am a 4pm ddydd Llun i ddydd Iau. 

Dylai unrhyw un sydd am gyflwyno sylwadau ynghylch effeithiau amgylcheddol tebygol y gwaith gwella arfaethedig anfon y rhain, yn ysgrifenedig, at y cyfeiriad a nodir isod, o fewn 30 diwrnod wedi dyddiad cyhoeddi’r hysbysiad hwn. 

Andrew Owen Basford
Cyflawni Prosiectau
Cyfoeth Naturiol Cymru
Heol Caer
Bwcle
Sir y Fflint
CH7 3AJ 

Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â: andrew.basford@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk