Gorchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Cyfyngu Ar Drwyddedau Pysgota  Rhwydi) 2017

Disgwylir y bydd y rheolau arfaethedig newydd mewn grym ar gyfer tymor 2018.

Cefndir

Mae’r gostyngiad parhaol yn niferoedd oedolion yr eogiaid a’r sewin sy’n dychwelyd i afonydd Cymru wedi cyrraedd niferoedd isel nas gwelwyd erioed o’r blaen yn ystod y blynyddoedd diweddar ac maent yn awr yn bygwth dyfodol nifer o bysgodfeydd.

Rydym yn ystyried nifer o weithredoedd a mesurau a fydd yn gymorth i reoli a gwrthwneud y tuedd hwn gan sicrhau fod y rhywogaethau eiconig yma yn parhau i fod yn rhan allweddol o’n hamgylchedd a’n diwylliant. 

Mae’n rhaid i ni roi mwy o gyfle i bysgod sy’n oedolion i silio os ydym am sicrhau dyfodol i’r rhywogaethau yn ein hafonydd. 

Rydym yn barod wedi gofyn i bysgotwyr a physgotwyr rhwydi i ryddhau’n wirfoddol y pysgod y maent yn eu dal. Rydym nawr yn teimlo, wedi adolygu’r dystiolaeth a chydgysylltu gyda rhanddeiliaid ei bod yn amser i gyflwyno rhagor o reoliadau ar bysgota eogiaid a sewin. 

Mae’r rheoliadau arfaethedig ar ddalfeydd yn cynnwys holl afonydd Cymru. Rydym yn cydnabod yr angen am ddull gwbl integredig ar gyfer ein hafonydd ar y ffin ac rydym yn cydweithio â’r Environment Agency i sicrhau fod hyn yn digwydd mewn ffordd ymarferol a synhwyrol a bydd yn ddarostyngedig i ymgynghoriad yn ddiweddarach.

Mae tair rhan i’r cynigion:

  • Gorchymyn Cyfyngu ar Rwydi
  • Rheoliadau Dalfeydd Gwialen a Lein (Is-ddeddfau) (ymgynghoriad disgwyliedig diwedd mis Awst)
  • Rheoliadau Dalfeydd Afonydd y Ffin (Is-ddeddfau) (ymgynghoriad disgwyliedig diwedd 2017)

Hyd

Gellir gwrthwynebu’r Gorchymyn Cyfyngu ar Rwydi am gyfnod o 12 mis o 1 Awst, 2017 tan 24 Hydref, 2017