Cyflwyno Cynllun Cyfreithiol: Newid Ffiniau Ardaloedd Draenio Mewnol

Ar 9 Chwefror 2018 cyflwynwyd Cynllun i Lywodraeth Cymru a fydd, os caiff ei gadarnhau, yn newid ffiniau 8 o Ardaloedd Draenio Mewnol. 

Yn awr mae gan y cyhoedd gyfle i gyflwyno sylwadau i Lywodraeth Cymru ynglŷn â’r Cynllun. Mae manylion am sut i gyflwyno sylwadau i’w cael yn yr Hysbysiad. Y dyddiad cau ar gyfer hyn yw 12 Mawrth 2018.

Bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ystyried y Cynllun ac unrhyw sylwadau a dderbynnir. Yna, os mai dyna’r bwriad, bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn creu Gorchymyn yn cadarnhau’r Cynllun. Wedyn, bydd CNC yn gallu cyflwyno newidiadau i gyfraddau draenio ac ardollau arbennig. 

Mae’r Hysbysiad a’r Cynllun, gyda mapiau’n dangos y newidiadau i’r ffiniau, ar gael i’w lawrlwytho isod:

Mapiau

Mae CNC wedi ymgynghori o’r blaen ynglŷn â’r newidiadau arfaethedig i ffiniau Ardaloedd Draenio Mewnol. Daeth yr ymgynghoriad hwn i ben ar 17 Ebrill 2017. Isod, er gwybodaeth yn unig, gwelir y dogfennau ymgynghori a oedd yn gysylltiedig â’r ymgynghoriad blaenorol hwn. Gan ddefnyddio’r ymatebion a dderbyniwyd, rydym wedi mireinio ein newidiadau arfaethedig ar gyfer y ffiniau.

 

Cefndir a chyd-destun

Fel arfer, gwelir Ardaloedd Draenio Mewnol (ADM) wedi’u lleoli ar dir isel lle nodwyd bod yna angen penodol am reoli lefelau dŵr. Mae ffiniau’r ADM yn cael eu pennu gan nodweddion ffisegol, nid gwleidyddol, ac maen nhw’n cael eu gweithredu yn unol â Deddf Draenio Tir (1991).

Mae’r ardaloedd sydd wedi’u lliwio’n goch a du ar y map yn dangos lleoliad 14 ADM o fewn Cymru (De Cymru ADM Mapiau / Gogledd ADM Cymru).

Gydag amser, bydd defnydd neu reoli tir o fewn ADM yn newid a bydd darnau o dir a oedd unwaith angen bod yn rhan o ADM bellach ddim yn addas, ac i’r gwrthwyneb. Oherwydd hyn, mae CNC wedi cynnal adolygiad o ffiniau presennol y 14 ADM o fewn Cymru gyda’r bwriad o ddiwygio’r ffiniau lle mae’n briodol.

Penderfynwyd yn gynnar yn yr adolygiad i eithrio ADM Cors Borth o’r adolygiad gan fod astudiaethau yn parhau i reolaeth gwarchodfa biosffer UNESCO, Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ac Ardal Gadwraeth Arbennig Cors Fochno, sydd o fewn ADM Cors Borth.

Yn ogystal, penderfynwyd nad oedd angen adolygiadau o’r tair ADM ganlynol, felly maen nhw hefyd wedi’u heithrio o’r adolygiad, sef ADM Dysynni, ADM Cors Malltraeth ac ADM Tywyn. Penderfynwyd eithrio’r tair ADM yma ar ôl ystyried yn ofalus sut roedden nhw’n gweithredu. Os ydych am wneud unrhyw sylwadau ynglŷn â’r ADM hyn, yna defnyddiwch y wybodaeth gyswllt ar waelod y dudalen os gwelwch yn dda. 

Felly mae’r ymgynghoriad hwn yn cynnig adolygiadau i ffiniau 10 ADM: ADM Afon Conwy; ADM Afon Ganol; ADM Cors Ardudwy; ADM Cil-y-coed a Gwynllŵg; ADM Glaslyn a Phensyflog; ADM Harlech a Maentwrog; ADM Llanfrothen; ADM Gwy Isaf; ADM Mawddach ac Wnion; ADM Powysland.  

Hyd yr Ymgynghoriad

Bydd yr ymgynghoriad yn rhedeg am 6 wythnos o 6fed Mawrth 2017 i 17eg Ebrill 2017.

Dogfennau’r Ymgynghoriad

Mae’r pecyn o ddogfennau yn cynnwys dogfen ymgynghori ar gyfer pob un o’r 10 ADM gyda’r diwygiadau arfaethedig; mapiau pdf sy’n dangos y newidiadau yn fwy manwl; geirfa i egluro unrhyw dermau anghyfarwydd; a ffurflen ymateb i’w defnyddio i ymateb i’r ymgynghoriad.

ADM Afon Conwy – adroddiad ymgynghori ar adolygu ffiniau

Mapiau ADM Afon Conwy - Map Prif, Map 1, Map 2, Map 3, Map 4

ADM Afon Ganol – adroddiad ymgynghori ar adolygu ffiniau

Mapiau ADM Afon Ganol – Map Prif, Map 1, Map 2

ADM Cors Ardudwy – adroddiad ymgynghori ar adolygu ffiniau

Mapiau ADM Cors Ardudwy – Map Prif, Map 1, Map 2, Map 3, Map 4

ADM Cil-y-coed a Gwynllŵg – adroddiad ymgynghori ar adolygu ffiniau

Mapiau ADM Cil-y-coed a Gwynllŵg – Map Prif, Map 1, Map 2, Map 3, Map 4, Map 5, Map 6, Map 7

ADM Glaslyn a Pensyflog – adroddiad ymgynghori ar adolygu ffiniau

Mapiau ADM Glaslyn a Pensyflog – Map Prif, Map 1, Map 2

ADM Harlech a Maentwrog – adroddiad ymgynghori ar adolygu ffiniau

Mapiau Harlech a Maentwrog – Map Prif, Map 1, Map 2, Map 3, Map 4

ADM Llanfrothen – adroddiad ymgynghori ar adolygu ffiniau

Mapiau ADM Llanfrothen – Map Prif, Map 1, Map 2

ADM Gwy Isaf – adroddiad ymgynghori ar adolygu ffiniau

Mapiau ADM Gwy Isaf – Map Prif, Map 1, Map 2, Map 3, Map 4, Map 5, Map 6, Map 7, Map 8, Map 9

ADM Mawddach ac Wnion – adroddiad ymgynghori ar adolygu ffiniau

Mapiau ADM Mawddach ac Wnion – Map Prif, Map 1, Map 2

ADM Powysland – adroddiad ymgynghori ar adolygu ffiniau

Mapiau ADM Powysland – Map Prif, Map 1, Map 2, Map 3, Map 4, Map 5, Map 6, Map 7, Map 8

 

Canlyniadau’r ymgynghoriad

Gellir lawr lwytho adroddiad sy’n rhoi manylion canlyniadau ein hymgynghoriad ar adolygiad Ffiniau Ardaloedd Draenio Mewnol isod. Mae’n cynnwys crynodeb o’r sylwadau a’r ymholiadau rydym wedi’u derbyn yn y ffurflenni ymgynghori, ac yn nodi sut mae ein newidiadau arfaethedig i’r ffiniau Ardaloedd Draenio Mewnol wedi ystyried y rhain. Mae’r adroddiad yn amlinellu’r camau nesaf fyddwn yn ei gymryd gyda Llywodraeth Cymru i roi’r newidiadau arfaethedig ar waith.