Adnewyddu Cored Garndolbenmaen
Hysbysa Cyfoeth Naturiol Cymru ei fod yn bwriadu gwneud gwaith gwella ar Gored Garndolbenmaen ar Afon Dwyfor yn Nolbenmaen (Cyfeirnod Grid Cenedlaethol SH 49869 42912). Bydd y gwaith gwella arfaethedig yn cynnwys y canlynol: atgyweirio arwyneb y gored, adnewyddu’r cwt, gosod ysgol lysywod.
Nid yw Cyfoeth Naturiol Cymru o’r farn y bydd y gwaith gwella’n debygol o effeithio’n sylweddol ar yr amgylchedd ac nid yw’n bwriadu paratoi datganiad amgylcheddol mewn perthynas ag ef. Er na chynigir llunio datganiad amgylcheddol, mae’r cynllun wedi ystyried ffactorau amgylcheddol sy’n gysylltiedig â’r safle ac wedi ymgorffori gwelliannau amgylcheddol pa fo hynny’n ymarferol. Gellir gweld y cynllun yn Swyddfa Cyfoeth Naturiol Cymru, Maes y Ffynnon, Penrhosgarnedd, Bangor, Gwynedd LL57 2DW rhwng 10:00 – 16:00, dydd Llun i ddydd Gwener.
Dylai pwy bynnag sy’n dymuno cyflwyno sylwadau’n ymwneud ag effeithiau amgylcheddol y gwaith gwella arfaethedig wneud hynny’n ysgrifenedig, gan eu hanfon i’r cyfeiriad a nodir isod, o fewn 30 diwrnod i ddyddiad cyhoeddi’r hysbysiad hwn.
Andrew Owen Basford
Cyflawni Prosiectau
Cyfoeth Naturiol Cymru
Ffordd Caer
Bwcle
Sir y Fflint, CH7 3AJ