Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn hysbysu ei fod yn bwriadu gwneud gwaith i wella amddiffynfa llifogydd ar Afon y Cyt yn Nhalsarnau yng nghyffiniau Draenogan Mawr (NGR SH60315 35511). Bydd y gwaith gwella arfaethedig yn cynnwys y canlynol: gosod drysau llanw newydd yn lle’r drysau cyfredol a chwlfer newydd a fydd yn ymestyn tua 12 metr drwy Arglawdd Amddiffynfa Llifogydd Afon y Glyn ac Afon Dwyryd yn Nhalsarnau.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn ystyried nad yw’r gwaith gwella yn debygol o effeithio’n sylweddol ar yr amgylchedd ac nid yw’n bwriadu paratoi datganiad amgylcheddol ar ei gyfer.

Mae’n bosibl gweld cysyniad gan gorff adnoddau naturiol cymru ("Cyfoeth Naturiol Cymru’’) i gyflawni’r gweithrediadau a glustnodir dan adran 28h deddf cefn gwlad a bywyd gwyllt 1981, fel y’u diwygiwyd, a hefyd asesiad risg cynefin cysylltiedig â’r safle dynodedig ewropeaidd; rhwng 9 am a 5 pm yn y Swyddfa CNC leol, Adeiladau’r Llywodraeth, Ffordd Aran, Dolgellau, Gwynedd, LL40 1LW.  

Dylai unrhyw un sy’n dymuno gwneud sylwadau mewn perthynas ag effeithiau amgylcheddol tebygol y gwaith gwella arfaethedig, wneud hynny yn ysgrifenedig, a’u hanfon i’r cyfeiriad a nodir isod, o fewn 28 diwrnod ar ôl dyddiad cyhoeddi’r hysbysiad hwn.

Gwyn Thomas
Swyddog Prosiect
Maes y Ffynnon
Penrhosgarnedd
Bangor
Gwynedd
LL57 2DW

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig