Ymgynghoriad ynghylch newidiadau arfaethedig i Ardal Gwarchodaeth Arbennig Liverpool Bay / Bae Lerpwl

Môr-wennol Fechan

Ffoto ©Stuart Thomas

Canlyniad yr ymgynghoriad hwn

Daeth yr ymgynghoriad hwn i ben ar 8 Chwefror 2017. Cafodd ein hadroddiadau terfynol ar yr ymgynghoriad eu cwblhau a’u cyflwyno i Lywodraethau Cymru a’r DU ym mis Mehefin 2017. Ar ôl ystyried yr holl ymatebion yn ofalus, aethom ati i argymell i Lywodraethau Cymru a’r DU y dylid cytuno gyda’r newidiadau arfaethedig i AGA Liverpool Bay / Bae Lerpwl yn unol â chynigion yr ymgynghoriad. Mae copïau o adroddiadau’r ymgynghoriad ar gael yn awr. 

Ar ôl ystyried ein hargymhellion, mae Llywodraethau y DU a Chymru wedi cytuno i ailddosbarthu AGA Liverpool Bay / Bae Lerpwl. 

Bydd y dogfennau diweddaraf ar gyfer y safle hon (gan gynnwys mapiau a dogfennau dynodi ffurfiol) i’w cael cyn bo hir ar ein gwe-dudalen ‘Safleoedd Dynodedig’. Yn ogystal, gellir parhau i gael gafael isod ar yr wybodaeth a gyhoeddwyd ar gyfer yr ymgynghoriad.

Ymhellach, mae mwy o wybodaeth i’w chael ar wefannau JNCC a NE.

Nodwch os gwelwch yn dda fod hwn yn ymgynghoriad ar wahân i’r un a gynhaliwyd yn ddiweddar yn ymwneud â chynigion ar gyfer nifer o AGA morol eraill o amgylch Cymru ac Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA) arfaethedig ar gyfer llamidyddion. Mae’r ymgynghoriadau hyn bellach wedi dod i ben. Caiff AGA eu dynodi dan Gyfarwyddeb Adar Gwyllt 2009 yr UE sy’n anelu at warchod bioamrywiaeth ar draws yr Undeb Ewropeaidd. Gyda’i gilydd, mae AGA ac ACA a ddynodir dan Gyfarwyddeb Cynefinoedd yr UE (92/42/EEC) yn ffurfio rhwydwaith o safleoedd o’r enw ‘Natura 2000’. Mae’r rhwydwaith Natura 2000 yn cynnwys dros 27,000 o safleoedd dynodedig sy’n gorchuddio ardaloedd o dir a môr ym mhob un o aelod-wladwriaethau’r UE.

Gweinidogion Cymru sydd â’r cyfrifoldeb o ddynodi AGA yng Nghymru a dyfroedd tiriogaethol Cymru. Ysgrifennydd Gwladol y DU sydd â’r cyfrifoldeb o ddynodi AGA yn Lloegr, yn nyfroedd glannau Lloegr ac yn nyfroedd alltraeth y DU. Lleolir AGA Liverpool Bay / Bae Lerpwl yn nyfroedd Cymru a Lloegr a chafodd ei dynodi ar y cyd gan Weinidogion Cymru ac Ysgrifennydd Gwladol y DU yn 2010.

Mae CNC yn cynghori Gweinidogion Cymru ynghylch adnabod ac addasu AGA yng Nghymru, ac rydym yn cynnal yr ymgynghoriad hwn ar eu rhan. Rydym yn cydweithio’n agos gyda Natural England, sy’n cynghori Llywodraeth y DU ynghylch materion o’r fath. Ni fydd unrhyw benderfyniad yn cael ei wneud ynghylch pa un a ddylid cyflwyno’n ffurfiol y newidiadau arfaethedig hyn i AGA Liverpool Bay/ Bae Lerpwl hyd nes y bydd CNC a Natural England wedi adrodd canlyniadau’r ymgynghoriad i Lywodraethau Cymru a’r DU. Cynghorir unrhyw un sy’n dymuno ymateb i’r ymgynghoriad hwn i ddarllen ein papur ymgynghori sy’n egluro’n fanylach beth yw testun yr ymgynghoriad a sut i ymateb, ac sy’n rhoi canllawiau i’r dogfennau sy’n ffurfio rhan o’r ymgynghoriad hwn.

Dogfennau perthnasol:

Dogfennau ar wefan Natural England (Saesneg yn unig)