Galw am dystiolaeth - adolygiad o'r defnydd o saethu ar dir sy'n cael ei reoli gan CNC
Er mwyn helpu i lywio ein hadolygiad, rydym yn gofyn am dystiolaeth gan bartïon sydd â diddordeb ynglŷn â defnyddio arfau tân ar dir mae CNC yn ei reoli. Rydym yn ceisio tystiolaeth sy'n ein helpu i wirio a yw gweithgareddau saethu'n ein helpu i gyflawni ein diben yn unol ag egwyddorion Rheoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy, a ph'un a ydynt yn cyfrannu at amcanion llesiant Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015.
Mae gan CNC nifer o rolau a chyfrifoldebau lle mae arfau tân yn cael eu defnyddio yn unol ag amrywiaeth o brotocolau, safonau a chanllawiau sydd eisoes yn bodoli.
- Fel rheolwr tir, mae angen inni gyfyngu'r difrod gan blâu er mwyn amddiffyn ein hamcanion rheoli tir, gan gynnwys gwarchod rhywogaethau a chynefinoedd gwarchodedig, rhywogaethau a chynefinoedd sydd â blaenoriaeth, a gallu cynhyrchiol
- Rydym hefyd yn ystyried cynigion gan drydydd partïon ynglŷn â gweithgareddau ar y tir rydym yn ei reoli
- Mae amgylchiadau perthnasol sy'n cynnwys y defnydd o saethu lle mai ni yw darparwr Cyngor Gwarchod Natur Statudol
- Rydym yn gweithredu fel y rheoleiddiwr ar gyfer ceisiadau trwydded perthnasol ar gyfer tir mae eraill yn berchen arno
Gyda chyflwyniad deddfwriaeth newydd, rydym am fod yn sicr bod arfau tân yn cael eu defnyddio am y rhesymau cywir, yn yr amgylchiadau cywir, ac yn y ffordd orau ag y bo modd.
Mae nifer o bartïon sydd â diddordeb wedi lleisio pryderon yn ddiweddar ynglŷn â materion lles anifeiliaid sy'n gysylltiedig â saethu ffesantod ar dir rydym yn ei reoli. Rydym yn adolygu'r defnydd o arfau tân, i gynnwys ystyried hyfywedd a chanlyniadau dulliau eraill.
Sut i ymateb
Cyflwynwch eich tystiolaeth i:
adolygiad.saethu@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Neu drwy’r post i:
Adolygiad Saethu
Cyfoeth Naturiol Cymru
d/o Y Ganolfan Gofal Cwsmeriaid
Tŷ Cambria, 29 Heol Casnewydd
Caerdydd
CF24 0TP