Biffenylau polyclorinedig (PCBs): eithriadau i'r gwaharddiad

Mae PCBs wedi'u gwahardd. Mae'n rhaid i chi waredu PCBs, a naill ai dihalogi neu waredu offer neu ddeunydd sy'n eu cynnwys cyn gynted â phosibl - oni bai eu bod wedi'u cynnwys mewn eithriad.

Ymchwil neu waredu

Nid yw'r gwaharddiad yn berthnasol i PCBs sy'n cael eu cadw:

  • at ddibenion ymchwil a dadansoddi priodweddau PCBs
  • fel rhan o broses i waredu PCBs (er enghraifft ar safle gwaredu gwastraff peryglus) neu broses i waredu ('dihalogi') PCBs o offer

Newidyddion

Gallwch chi gadw newidyddion hyd at ddiwedd eu hoes ddefnyddiol os ydynt yn cynnwys hylif:

  • sydd â llai na 0.005% o PCBs yn ôl pwysau, neu 
  • sydd â llai na 0.05 litr yn ôl cyfaint

Rhaid i chi ddihalogi neu waredu'r newidydd cyn gynted â phosibl ar ôl diwedd ei oes ddefnyddiol.

Gallwch chi gadw newidyddion hyd at 31 Rhagfyr 2025 os ydynt yn cynnwys hylif:

  • sydd â mwy na 0.005% ond dim mwy na 0.05% o PCBs yn ôl pwysau, a 
  • sydd â mwy na 0.05 litr yn ôl cyfaint

Rhaid i chi ddihalogi neu waredu'r newidydd cyn gynted â phosibl ar ôl y terfyn amser hwn.

Os yw eich newidydd yn cynnwys mwy na 0.05% o PCBs yn ôl pwysau, rhaid i chi ei ddihalogi neu ei waredu.

Darnau bach o offer

Gallwch chi barhau i ddefnyddio darnau bach o offer sy'n cynnwys PCBs os yw'r canlynol yn berthnasol:

  • nid yw’n offer halogedig
  • maen nhw'n ddarnau o offer mwy o ran maint nad ydynt yn offer halogedig eu hunain

Bwriad yr eithriad ar gyfer offer llai o faint yw osgoi'r angen i chi ddinistrio neu ddifrodi darn mawr o offer er mwyn gwaredu'r PCBs sydd wedi'u cynnwys mewn darn bach.

Nid yw'r eithriad yn berthnasol os yw'n ymarferol i chi waredu'r darn llai o faint a gwaredu'r PCBs heb niweidio'r peiriant mwy o ran maint.

Diweddarwyd ddiwethaf