Asesiad canlyniadau llifogydd: rhestr wirio model llifogydd

Os ydych yn darparu model hydrolig i gefnogi eich asesiad canlyniadau llifogydd, bydd angen i chi gynnwys rhestr wirio model llifogydd gan ddefnyddio ein templed wirio model llifodydd.

Mae’r rhestr wirio yn gofyn cyfres o gwestiynau a ddylai helpu i ddangos bod y model llifogydd wedi’i adeiladu’n briodol a bod yr allbwn cywir wedi’i greu. Ceir crynodeb o’r rhestr wirio model llifogydd isod gyda rhagor o wybodaeth a chyfarwyddiadau yn y templed.

Dull modelu

1.0    Cyffredinol

1.1    A fu cyswllt â CNC cyn y gwaith modelu? Os bu, rhowch fanylion.
1.2    A oes model gan CNC ar y safle? Os na, ewch i 1.4.
1.3    A ddefnyddiwyd model CNC ac a gafodd ei drwyddedu?
1.4    A ofynnwyd am unrhyw ddata arall gan CNC ac a ddefnyddiwyd y data hynny yn y model?
1.5    A ydyw canllawiau Llywodraeth Cymru ar y newid yn yr hinsawdd wedi’u mabwysiadu?
1.6    A oes unrhyw ddata llifogydd hanesyddol ar gyfer yr ardal? Os felly, adolygir dilysu a graddnodi’r model yn fanylach yn yr adran MODEL HYDER.

2.0     Methodoleg ac adrodd

2.1    Modelau adeiladau newydd: a ydyw’r adroddiad yn cynnwys manylion digonol am wneuthuriad y model a phenderfyniadau a rhagdybiaethau a wnaed?
2.2    Model CNC: a ydyw’r holl newidiadau a wnaed i fodel gwreiddiol CNC wedi’u nodi a’u dogfennu’n ddigonol yn yr adroddiad?
2.3    A oes tystiolaeth o ymweliadau â’r safle?
2.4    A ydyw amcanion y dadansoddiad wedi’u nodi’n glir?
2.5    A ydyw’r dadansoddiad yn briodol er mwyn cyflawni’r amcanion hyn?

3.0    Afonol / Hydroleg

3.1    A gynhaliwyd asesiad hydroleg newydd?
3.2    A ydyw’r cofnod cyfrifo amcangyfrif llifogydd hydroleg wedi’i gwblhau?
3.3    A gytunwyd ar y cofnod cyfrifo amcangyfrif llifogydd gyda CNC cyn i chi gychwyn unrhyw waith modelu hydrolig manwl?
3.4    A ydyw tîm hydroleg CNC yn derbyn yr hydroleg?

4.0    Mewnlif llanwol

4.1    A ydyw’r ffin llanw wedi’i llunio yn unol ag ‘Amodau’r ffin llifogydd arfordirol ar gyfer y DU: diweddariad 2018’?
4.2    A ddarparwyd y cyfrifiadau?
4.3    A oes tonnau’n torri drosodd? Os felly, a ddarparwyd y cyfrifiadau ac a ydynt yn addas?

5.0    Arolwg

5.1    A ydyw ffynhonnell y data wedi’i nodi?
5.2    A ydyw’r dull wedi’i nodi?
5.3    A ydyw’r arolwg yn gyfredol?Os nad ydyw, gweler 5.4. Os ydyw, a nodwyd y dyddiad?
5.4    A ydyw’r arolwg gwirio wedi’i gynnal?
5.5    A ydyw gorsafoedd E wedi’u rhestru?
5.6    A oes data digonol wedi’u casglu?
5.7    A roddir lefelau yn unol â’r datwm ordnans?
5.8    A ydyw’r data ar ffurf electronig?
5.9    A ydyw’r data wedi’u geogyfeirnodi? Os nad ydynt, darparwch gynllun o’r lleoliad.
5.10    A ydyw’r data LiDAR yn gyfredol? Os ydyw, a nodwyd y dyddiad?
5.11    A ydyw cydraniad y LiDAR yn addas?
5.12    A ydyw’r LiDAR a ddefnyddiwyd yn nodi’r holl newidiadau topograffig diweddar ym maint y model a allai ddylanwadu ar ganlyniadau’r model?

Adeiladu model hydrolig

6.0    Cyffredinol

6.1    A ydyw’r model o’r math cywir?
6.2    A ydyw’r strwythur rheoli data a argymhellir ar gyfer y pecyn meddalwedd wedi’i ddefnyddio?
6.3    A ddefnyddiwyd unrhyw osodiadau nad ydynt yn ddiofyn ar gyfer y cydrannau 1D a 2D?
6.4    A ydyw cam amser y model yn briodol?
6.5    A ydyw hyd y rhannau afon yn cyfateb â data’r arolwg a/neu gynrychiolaeth 2D?
6.6    A ydyw amser rhedeg y model yn ddigon i sicrhau bod y lefelau dŵr wedi cyrraedd uchafbwynt ar draws barth y model?
6.7    A ydyw cyrff dŵr wedi’u hystyried a’u modelu’n briodol?

7.0    Mewnlifoedd ac amodau ffiniau

7.1    A ydyw’r lleoliadau mewnlif yn y lle cywir o fewn parth y model?
7.2    A ydyw’r mewnlifoedd yr un fath â’r rheini a nodir yn yr adroddiad?
7.3    A ydyw’r ystod briodol o lifoedd / llanwau wedi’i modelu?
7.4    A ydyw’r mathau o ffiniau i fyny’r afon ac i lawr yr afon yn briodol?
7.5    A ydyw’r model yn ymestyn yn ddigon pell i fyny’r afon ac i lawr yr afon?
7.6    Llanw yn unig – Sut mae’r tonnau’n torri drosodd wedi’i gymhwyso? A ydyw’n 
               briodol?
7.7    Glaw – Sut mae glawiad wedi’i gymhwyso? A ydyw’n briodol?
7.8    A ystyriwyd ymdreiddiad? Os felly, sut ac a ydyw’n briodol?

8.0    Model 1D

8.1    A ydyw’r amodau cychwynnol yn briodol?
8.2    A ydyw lledau trawstoriadau enghreifftiol yn briodol?
8.3    A ydyw’r bylchau trawstoriad ar gyfer y model yn briodol?
8.4    A ydyw adrannau sydd wedi’u rhyngosod wedi’u cadw at leiafswm?
8.5    A ydyw gwerthoedd garwedd 1D (Manning) yn synhwyrol?
8.6    A ydyw adeileddau wedi’u modelu’n briodol?
8.7    A ydyw trawsgludiad yn edrych yn llyfn mewn lleiniau trawstoriad?
8.8    A ddefnyddiwyd marcwyr paneli a marcwyr gorlifdir yn briodol?

9.0    Model 2D

9.1    A ydyw maint a chyfeiriadedd grid / rhwyll yn briodol?
9.2    A ydyw’r grid yn gynrychioliadol o’r model tirwedd digidol?
9.3    A ydyw’r amodau cychwynnol yn briodol?
9.4    A ydyw’r parth enghreifftiol yn briodol?
9.5    A ydyw’r adeiladau wedi’u cynrychioli’n briodol?
9.6    A ydyw cynrychiolaeth garwedd Manning yn ddigonol?
9.7    A ydyw adeileddau a nodweddion y gorlifdir wedi’u modelu’n briodol?

10.0    Model cyswllt 1D / 2D

10.1    A ydyw lled a lefelau’r trawstoriad 1D yn cyd-fynd â’r cynrychiolaeth 2D?
10.2    Sut mae’r modelau 1D / 2D wedi’u cyplysu, ac a ydyw’n briodol?
10.3    A ydyw digideiddio’r dolenni yn dderbyniol?
10.4    A ydyw allbynnau 1D wedi’u cynrychioli’n briodol yn y parth 2D?
10.5    A oes unrhyw baramedrau cyswllt rhagosodedig wedi’u newid (h.y. i wella    
               sefydlogrwydd)?

Hyder ynglŷn â’r model

11.0    Cyffredinol / Cynnal a chadw

11.1    A ydyw’r model yn rhedeg?
11.2    A ydyw’r holl ffeiliau a chanlyniadau a ddisodlwyd wedi’u dileu?
11.3    A ydyw ffeiliau cofnodi / gwirio’r model wrth redeg wedi’u cynnwys?
11.4    A ddarparwyd set lawn o ganlyniadau 1D a 2D amrwd a chanlyniadau wedi’u  
              prosesu?
11.5    A ydyw’r model a’r allbynnau yn pasio gwiriad realiti?
11.6    A ydyw llifoedd y model yn gyson â’r amcangyfrifon llif hydroleg fel y ffin i lawr yr afon neu ardal o ddiddordeb?

12    Sefydlogrwydd

12.1    A oes unrhyw broblemau o ran sefydlogrwydd y model?
12.2    A ddefnyddiwyd patsys sefydlogrwydd, ac os felly a ydynt yn briodol?
12.3    A ydyw baneri gwallau / sylwadau / rhybuddion wedi cael sylw / wedi’u lleihau?
12.4    A ydyw’r cyfaint ar draws y model wedi’i wirio gyda llinellau PO?

13    Gwirio

13.1    A ydyw allbynnau’r model wedi’u gwirio yn erbyn maint a gofnodwyd a/neu wybodaeth anecdotaidd, megis llwybrau llif, nodau dryllio, amseroedd gorlif ac ati?
13.2    A ydyw’r allbynnau / canlyniadau yn realistig?

14    Graddnodi

14.1    A oes data addas ar gael ar gyfer graddnodi, ac a ydynt wedi cael eu defnyddio?
14.2    A gyflawnwyd rhediadau graddnodi?
14.3    A ydyw’r data a ddefnyddir ar gyfer graddnodi model yn briodol?
14.4    A wnaed unrhyw newidiadau i’r model yn ystod y broses hon ac a ydynt yn briodol ac yn realistig?
14.5    Sawl digwyddiad a ddefnyddiwyd yn ystod graddnodi ac a ydynt yn addas i’w defnyddio?
14.6    A ydyw’r model yn graddnodi?
14.7    A ydyw brigau a siâp yr hydrograff efelychiadol yn weddol debyg i’r brigau a gofnodwyd?

15    Sensitifrwydd

15.1    A gynhaliwyd profion sensitifrwydd priodol?
15.2    A ddewiswyd paramedrau model priodol ar gyfer profi sensitifrwydd?
15.3    A ydyw canlyniadau’r profion yn dangos bod y model yn sensitif iawn i baramedrau penodol?

16    Ansicrwydd

16.1    A ydyw cyfyngiadau a thybiaethau’r model wedi’u cyfiawnhau?
16.2    A gyflwynwyd cyfyngiadau ansicrwydd ar gyfer canlyniadau model (+/– mm)? Sut cawsant eu deillio ac a ydyw hyn yn ymddangos yn synhwyrol?
16.3    A ystyriwyd lwfans bwrdd rhydd? A ydyw’n rhesymol yng nghyd-destun y terfynau ansicrwydd?
16.4    A ddarparwyd datganiad clir o unrhyw bryderon ynghylch cywirdeb y model neu ei allu i gynrychioli realiti?

Asesiad canlyniadau llifogydd

17    Cyffredinol

17.1    A ydyw’r modelau ‘Fel sy’n bodoli’ (gwaelodlin) a ‘Gyda datblygiad’ (cynllun arfaethedig) wedi’u cyflwyno?
17.2    A ydyw’r cynlluniau datblygu arfaethedig wedi’u darparu ac yn ddigon manwl?

18    Model datblygu arfaethedig

18.1    A ydyw topograffeg y datblygiad arfaethedig wedi’i gynrychioli yn y model yn ddigon manwl?
18.2    A ydyw garwedd Manning wedi’i ddiweddaru ar gyfer y model arfaethedig?

19    Gofynion model penodol i safle

19.1    A gynhaliwyd asesiad blocio? (os na, ewch i adran 19.4)
19.2    A ydyw’r rhwystrau wedi’u cymhwyso’n gywir i’r model?
19.3    A ydyw’r rhwystrau a ddefnyddir yn y model yn cyfateb i’r rhai a ddogfennwyd yn yr asesiad canlyniadau llifogydd?
19.4    A gynhaliwyd asesiad torri amodau? (os na, ewch i adran 20)
19.5    A ydyw’r toriadau wedi’u cymhwyso’n gywir i’r model?
19.6    A ydyw’r toriadau a ddefnyddir yn y model yn cyfateb i’r rhai a ddogfennwyd yn yr asesiad canlyniadau llifogydd?

20    Modelu lliniaru

20.1    A gynigir opsiynau lliniaru fel rhan o’r cynllun datblygu? Os na, ewch i adran 21.
20.2    A oes digon o wybodaeth am yr opsiynau arfaethedig?
20.3    A ydyw’r opsiynau wedi’u cymhwyso i’r model yn gywir?
20.4    A gynhaliwyd asesiad o’u heffaith ar gyfer pob digwyddiad?

21    Allbynnau asesiad canlyniadau llifogydd

21.1    A ydyw effeithiau trydydd parti wedi’u harddangos yn gywir?
21.2    A ydyw’r effaith oddi ar y safle yn llai na 5mm neu’n gyfwerth?Os na, a oes digon o gyfiawnhad dros yr effaith?
21.3    A ydyw amlinelliadau wedi’u mapio wedi cael eu cyflenwi?
21.4    A ydyw’r allbynnau a fapiwyd yn cyfateb i’r canlyniadau crai?

Her mapiau llifogydd

22    Hawliau eiddo deallusol

22.1    A fwriedir i’r model gael ei ddefnyddio i ddiweddaru mapiau CNC neu gynhyrchion perygl llifogydd?
22.2    A oes ffurflen nodyn newid wedi’i chwblhau?
22.3    A roddwyd yr hawliau eiddo deallusol priodol i CNC?
22.4    A ddarperir manylion i alluogi rhedeg y model (h.y. confensiwn enwi a switshys rhedeg)?

23    Cyffredinol

23.1    A ydyw’r ardal / haen sy’n cael ei herio wedi’i chyfleu’n glir?
23.2    A ydyw’r model yn cynnig tystiolaeth newydd sy’n gwella safon bresennol y dystiolaeth?
23.3    A all y graddau i fyny’r afon ac i lawr yr afon glymu i’r mapiau llifogydd cenedlaethol?

24    Digwyddiadau a senarios

24.1    A ydyw’r digwyddiadau a’r senarios cywir wedi’u hefelychu ac a ddarparwyd allbynnau?
24.2    Model amddiffynnol – A ydyw’r model amddiffynedig yn cynnwys amddiffynfeydd priodol yn unig?
24.3    Model diamddiffyn – A ydyw holl amddiffynfeydd yr awdurdod rheoli risg, preifat a defacto (anffurfiol) wedi’u dileu o’r model?

Diweddarwyd ddiwethaf