Asesu effeithiau ar ansawdd aer fel rhan o’ch cais cynllunio
Mae gan effeithiau ar ansawdd aer o ddatblygiadau arfaethedig, neu sy’n gysylltiedig â datblygiadau arfaethedig, y potensial i niweidio nodweddion pwysig safleoedd gwarchodedig.
Mae’r cyngor hwn yn nodi pryd yr ydym yn disgwyl i chi ystyried effeithiau posibl ar safleoedd gwarchodedig fel rhan o’ch cais cynllunio, a pha wybodaeth ategol y mae ei hangen.
Mae safleoedd gwarchodedig yn cynnwys:
- Ardaloedd cadwraeth arbennig (ACA)
- Ardaloedd gwarchodaeth arbennig (AGA)
- Safleoedd Ramsar
- Safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig (SoDdGA)
- Gwarchodfeydd natur cenedlaethol
- Parthau cadwraeth morol
Pryd i ystyried effeithiau posibl ar ansawdd aer o ran safleoedd gwarchodedig
Datblygiad amaethyddol
Darganfyddwch beth i’w ddarparu gyda’ch cais cynllunio ar gyfer datblygiad amaethyddol.
Effeithiau ar ansawdd aer o ganlyniad i gynnydd mewn symudiadau traffig
Os yw eich datblygiad arfaethedig yn cynyddu symudiadau traffig, ac y mae’r canlynol yn wir;
- Mae safleoedd gwarchodedig o fewn 200 metr i ymyl ffordd, lle bydd eich datblygiad arfaethedig yn achosi traffig ychwanegol, ac;
- Mae’r cynnydd yn y llif traffig dyddiol cyfartalog blynyddol o’r datblygiad yn fwy na 1,000 o gerbydau gwaith ysgafn neu 200 o gerbydau gwaith trwm.
Mae potensial ar gyfer effeithiau annerbyniol ar ansawdd aer a allai effeithio ar safleoedd gwarchodedig, a bydd angen i chi baratoi asesiad ansawdd aer o’r effeithiau posibl i ategu’ch cais cynllunio.
Effeithiau ar ansawdd aer o ganlyniad i weithgareddau sy’n allyrru llwch
Os yw eich datblygiad arfaethedig yn cynnwys gweithgaredd adeiladu sy’n cynhyrchu llwch, ac mae safleoedd gwarchodedig o fewn:
- 50 metr o ffin safle’r cais, neu;
- 50 metr o’r llwybr(au) a ddefnyddir gan gerbydau adeiladu ar y briffordd gyhoeddus, o fewn radiws o 500 metr o fynedfa / mynedfeydd safle’r cais, a / neu;
Os yw eich datblygiad arfaethedig yn bwriadu cynnal gwaith mwyngloddio, ac y mae safleoedd gwarchodedig o fewn:
- 250 metr o safle’r cais ar gyfer safleoedd mwynau craig feddal (e.e. tywod a graean), a;
- 400 metr o ffin safle’r cais ar gyfer safleoedd mwynau craig galed (e.e. gwenithfaen).
Mae potensial ar gyfer effeithiau annerbyniol ar ansawdd aer a allai effeithio ar safleoedd gwarchodedig, a bydd angen i chi baratoi asesiad ansawdd aer o’r effeithiau posibl i ategu’ch cais cynllunio.
Effeithiau ar ansawdd aer oherwydd gwaith gosod
Os yw eich datblygiad arfaethedig yn cynnwys math o ddatblygiad neu waith gosod sydd angen trwydded amgylcheddol ac yn dod o fewn y pellteroedd sgrinio a nodir yn y tabl isod, mae ganddo’r potensial i niweidio ansawdd aer safleoedd gwarchodedig. Mewn achosion o’r fath, dylai eich cais cynllunio gael ei ategu gan asesiad ansawdd aer. Os na fyddwch yn cynnal asesiad ansawdd aer, efallai y byddwn yn gwrthwynebu’r cais cynllunio.
|
Pellter i’r safle gwarchodedig (cilometr) |
Pellter i’r safle gwarchodedig (cilometr) |
Pellter i’r safle gwarchodedig (cilometr) |
Mewnbwn MW (th) (dylai gyfrif am gyfanswm y cynnig datblygu) |
Nwy (heblaw nwy naturiol) |
Olew trwm solet a hylifol |
Nwy naturiol, olew nwy, a biomas solet prennaidd |
>500 |
15 |
15 |
15 |
>50 - 500 |
15 |
15 |
10 |
>20 - 50 |
10 |
10 |
5 |
>10 - 20 |
5 |
10 |
2.5 |
>5 - 10 |
4 |
8 |
1.5 |
>2 - 5 |
1.5 |
4 |
1 |
>1 - 2 |
1 |
2 |
0.75 |
0.5 - 1 |
0.2 |
0.2 |
0.2 |
<0.5 |
Nid oes angen asesiad (oni bai bod safle’r datblygiad wedi’i leoli o fewn ffiniau safle gwarchodedig). |
Nid oes angen asesiad (oni bai bod safle’r datblygiad wedi’i leoli o fewn ffiniau safle gwarchodedig). |
Nid oes angen asesiad (oni bai bod safle’r datblygiad wedi’i leoli o fewn ffiniau safle gwarchodedig). |
Dysgwch fwy am weithfeydd hylosgi canolig a chynhyrchwyr penodedig.
Beth i’w gynnwys yn eich asesiad ansawdd aer
Ar ôl i chi nodi unrhyw safleoedd gwarchodedig, bydd angen i chi baratoi asesiad ansawdd aer o ran yr effeithiau posibl i ategu’ch cais cynllunio er mwyn ystyried cynnydd mewn symudiadau traffig ac unrhyw waith gosod.
Dylai eich asesiad nodi’r lefelau critigol sy’n berthnasol i’r safle a’r llwythi critigol sy’n berthnasol i’r safle, a nodweddion cymwys safleoedd gwarchodedig o fewn y pellteroedd sgrinio a nodir yn y tabl uchod.
Os nad oes gwybodaeth ar gael ar y System Gwybodaeth Llygredd Aer ar gyfer y safle gwarchodedig a nodwyd, dylech ddefnyddio’r trothwyon lefelau critigol a llwythi critigol a amlinellir yn yr asesiad o risg allyriadau aer ar gyfer eich trwydded amgylcheddol – GOV.UK, yn benodol yr adran o’r enw ‘sgrinio ar gyfer ardaloedd cadwraeth gwarchodedig’.
Er mwyn canfod a allai eich datblygiad arfaethedig gael effaith sylweddol ar safle gwarchodedig, rhaid i chi ystyried ei gyfraniad i’r broses. Nid oes angen asesiad pellach o’r effeithiau ar ansawdd aer os yw’r canlynol yn wir:
Mae cyfraniad eich datblygiad arfaethedig i’r broses yn <1% o lefel critigol a llwyth critigol y safle gwarchodedig (gellir sgrinio hyn fel cyfraniad dibwys).
Fodd bynnag, mae angen asesiad pellach o effeithiau ansawdd aer os yw’r canlynol yn wir:
Mae cyfraniad eich datblygiad arfaethedig i’r broses yn >1% o lefel critigol a / neu lwyth critigol y safle gwarchodedig.
Pan fydd cyfraniad eich datblygiad arfaethedig i’r broses yn >1% o lefel critigol a / neu llwyth critigol y safle gwarchodedig, dylai cam nesaf eich asesiad gyfrifo’r crynodiad amgylcheddol a ragwelir. Crynodiad amgylcheddol a ragwelir yw cyfraniad eich datblygiad arfaethedig i’r broses ynghyd â lefel gefndir bresennol llygrydd sydd ar y safle gwarchodedig ar hyn o bryd.
Ar ôl cyfrifo’r crynodiad amgylcheddol a ragwelir, os ydych chi wedi penderfynu bod gan eich datblygiad arfaethedig y potensial i achosi ‘effaith arwyddocaol debygol’ ar safle gwarchodedig, mae angen asesiad pellach.
Dylech gyfeirio at asesiad o risg allyriadau aer ar gyfer eich trwydded amgylcheddol i gael canllawiau ar asesu crynodiad amgylcheddol a ragwelir, a’r camau nesaf i’w cymryd ar gyfer unrhyw grynodiadau amgylcheddol a ragwelir nad ydynt wedi’u sgrinio allan fel rhai dibwys.
Ar gyfer unrhyw grynodiadau amgylcheddol a ragwelir nad ydynt wedi’u sgrinio allan fel rhai dibwys, bydd angen i chi gynnal asesiad pellach o effeithiau posibl a / neu gynnig mesurau lliniaru, er mwyn sicrhau na fydd unrhyw effeithiau niweidiol.
Dylid hefyd ystyried unrhyw weithgareddau sy’n allyrru llwch drwy lunio asesiad risg o effaith llwch a chynllun rheoli llwch neu gynllun rheoli amgylcheddol adeiladu sy’n cynnwys mesurau priodol ar gyfer atal a lliniaru llwch. Dylai’r dogfennau hyn asesu’r risg o effaith sylweddol ar rywogaethau sensitif a nodweddion cynefinoedd. Gall yr asesiad hwn fod yn ddogfen annibynnol, neu wedi’i ymgorffori fel adran neu bennod mewn asesiad ansawdd aer cyffredinol.
Cyngor pellach
Os oes angen rhagor o gyngor arnoch ynghylch effeithiau ansawdd aer wrth baratoi eich cais cynllunio, ewch i’n gwasanaeth i ddatblygwyr sy’n nodi sut y gallwch gael cyngor gennym cyn i chi gyflwyno eich cais cynllunio i’ch awdurdod lleol.
Cysylltwch â ni i wirio a oes angen trwyddedau, cydsyniadau, cymeradwyaethau, neu ganiatadau eraill arnoch. Efallai y codir tâl ar gyfer y gwasanaeth hwn.