Datblygiadau ynni gwynt ar y môr

Ynni gwynt ar y môr

Mae ynni gwynt ar y môr yn dechnoleg ynni adnewyddadwy sefydledig a phrofedig.

Yng Nghymru, mae gennym dair fferm wynt ar y môr weithredol ger arfordir gogledd Cymru, Gwynt y Môr, Gwastadeddau'r Rhyl a North Hoyle, yn ogystal â cheblau trawsyrru o ddatblygiadau cyfagos.

Gall ffermydd gwynt ar y môr gael effaith ar yr amgylchedd, gan gynnwys ar adar, mamaliaid morol, ecoleg fenthig a physgod, yn ogystal ag effeithiau gweledol. Mae cynllunio a lleoli safleoedd yn ofalus yn hanfodol er mwyn osgoi a lleihau effeithiau.

Canllawiau ar roi caniatâd ac asesiadau 

Dewch o hyd i ddata a thystiolaeth ar gyfer eich gweithgarwch tynnu agregau morol:

Canllawiau ar gyfer derbynyddion

Mae ein tudalen datblygu morol yn cynnwys gwybodaeth gyffredinol am dderbynyddion a data ar gyfer asesu, a allai fod yn berthnasol i’r diwydiant hwn.

  • Adroddiadau tystiolaeth ar forwedd a sensitifrwydd gweledol i ffermydd gwynt ar y môr
    • Cam 1 - Y berthynas rhwng pellter tyrbin ar y môr oddi wrth dderbynnydd sensitif a maint yr effeithiau gweledol
    • Cam 2 - Canllawiau ar leoli a dylunio ffermydd gwynt ar y môr mewn perthynas â morweddau
    • Cam 3 - Sensitifrwydd gweledol lleoliadau morol Tirweddau Dynodedig Cymru i ffermydd gwynt ar y môr

Canllawiau ar ddata ar gyfer asesiadau

Blaenoriaethau, ymchwil ac adroddiadau tystiolaeth CNC

Ffynonellau gwybodaeth eraill

Mae adnoddau naturiol Cymru'n cynnig cyfle gwych i gynhyrchu ynni adnewyddadwy o'r gwynt, y tonnau a'r llanw. Drwy reoli'r adnoddau hyn yn gynaliadwy, gallwn sicrhau bod y datblygiad cywir yn y lle cywir yn helpu i fodloni targedau datgarboneiddio a galluogi twf glas yng Nghymru.

Cysylltwch â ni

Os ydych yn ystyried prosiect ynni gwynt ar y môr neu brosiect ynni gwynt ar y môr arnofiol yn nyfroedd Cymru, cysylltwch â ni yn gynnar yn eich cynlluniau drwy e-bost: marine.area.advice@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf