Efallai y bydd angen i chi ystyried effeithiau gwasgfa arfordirol fel rhan o asesiad rheoliadau cynefinoedd os ydych yn gwneud gwaith ar strwythur arfordirol mewn safle dynodedig.

Bydd ein canllawiau:

  • yn esbonio beth yw gwasgfa arfordirol
  • yn eich helpu i ddeall pryd y gallai fod angen asesiad o wasgfa arfordirol fel rhan o asesiad rheoliadau cynefinoedd
  • yn esbonio sut y gall cynlluniau rheoli traethlin gefnogi asesiad
  • yn darparu gwybodaeth dechnegol ar sut i gynnal neu wirio asesiad
  • yn cynnwys gwybodaeth am drwyddedau a hawlenni y gallai fod angen i chi wneud cais amdanynt hefyd

Darllenwch ein canllawiau ar asesu gwasgfa arfordirol (Saesneg yn unig).

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf