
Pren crwn bach
I ddibenion y tendr, mae pren crwn bach yn cael ei ddiffinio fel pren â diamedr ei frig yn ddim llai na 5cm a diamedr ei fôn yn ddim mwy na 65cm, a’r hyd rhagosodedig yn 2.8m +/- 20cm. Mae’n cynnwys rhywogaethau o goed conwydd yn unig a gall gynnwys pren marw. Bydd unrhyw ddeunydd sy’n addas ar gyfer ffensio wedi’i dynnu i ffwrdd eisoes a’i werthu ar wahân.
Manylion gwerthu
- Mae’r cyfaint cyfan yn cael ei rannu’n lotiau ledled yr ardaloedd cynhyrchu uniongyrchol yng Nghymru. Bydd pob lot yn cael ei diffinio yn ôl yr ardal o goedwig
- Bydd cynigion, sy’n cael eu mynegi fel pris y dunnell, yn cael eu cyflwyno ar y cyfaint cyfan neu ran ohono ar gyfer pob lot
- Gellir hefyd gyflwyno cynigion amodol, er enghraifft cyfyngiadau ar rywogaethau, amrywiadau o ran hyd a diamedr, dyddiadau cyflenwi
- Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn gwobrwyo contractau a fydd yn rhoi’r enillion ariannol cyffredinol gorau
- Ni fydd y contractau hyn yn para am fwy na 12 mis. Mae cyfle ar gael i barhau i ail flwyddyn a blwyddyn derfynol, ar gwblhau’r flwyddyn gyntaf yn llwyddiannus a thrwy gytundeb y ddau barti. Bydd pris y cynnig yn cael ei adolygu a’i addasu yn ôl amodau cyffredinol y farchnad
- Telerau ac Amodau Pryniad Safonol o Bren Crwn Bach (Pyst, polion a rheiliau)
Pren caled
Bydd unrhyw gontractau gwerthu pren caled sy’n sefyll a chontractau pren caled sy’n sefyll gerllaw’r ffordd yn debygol o gael eu cynnig trwy E-Werthiant Coed. Mae’r pren hwn fel arfer yn cael ei farchnata fel coed tân pren caled. Bydd deiliaid contractau a fynegodd ddiddordeb mewn coed tân pren caled yn derbyn gwybodaeth yn awtomatig pan fydd lotiau’n dod ar gael.
Cynhyrchu yn y dyfodol
Mae Cynaeafu a Marchnata Cymru (WHaM) yn gweithio i ddatblygu cynlluniau cynhyrchu pren caled ledled Cymru yn y dyfodol. Mae hyn yn cynnwys y posibilrwydd o ddatblygu contractau pren caled hirdymor. Am fwy o wybodaeth ar gynhyrchu pren caled, cysylltwch â’r ddesg cymorth e-werthiant.
Pren ar gyfer Marchnadoedd Arbenigol
Mae Cynaeafu a Marchnata Cymru yn gweithio i ddatblygu cronfa o gwsmeriaid sydd â diddordeb mewn:
- Mân rywogaethau o goed conwydd, er enghraifft Ffynidwydd Douglas, Sbriws Hemlog y Gorllewin a’r Gochwydden
- Boncyffion diamedr mawr gyda diamedr y bôn yn fwy na 70cm
- Polion pren hir wedi’u torri i hydoedd ar hap, gyda diamedr y brig yn fwy na 30cm. Ar hyn o bryd, rydyn ni’n marchnata pren tebyg i foncyffion hir (3.7m - 13.5m) Ffynidwydd Douglas
- Byrnau tocion neu sglodion ar gyfer y farchnad biodanwydd
I drafod eich gofynion, cysylltwch â’r ddesg cymorth e-werthiant.
Coed tân
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn derbyn llawer o ymholiadau ynglŷn â chyrchu pren ar gyfer tanwydd coed a choed tân, yn arbennig o Ystâd Goed Llywodraeth Cymru.
Sylwer : o 31 Hydref 2019 ymlaen, gellir prynu coed tân yn unig mewn lotiau a gynigir yn ystod digwyddiadau e-Werthu. Ceir manylion y digwyddiadau hyn ar y gwe-dudalennau e-Werthu.
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â’r ddesg cymorth e-werthiant.