
Cytundebau Hirdymor
Mae Cytundebau Hirdymor (LTC) yn gytundebau pum mlynedd fel arfer. Maen nhw'n cael eu cynnig fel coed sy'n sefyll neu werthiannau ochr y ffordd. Cynigir tendr cytundebau hirdymor fel cyfaint wedi'i bennu, sy'n ymestyn yn gyfartal dros gyfnod y cytundeb. Caiff prisiau cytundebau ochr y ffordd eu diwygio'n flynyddol fel arfer, a chaiff pris cytundebau coed sy'n sefyll eu diwygio yn ôl y lot.
Nid oes yna gynlluniau ar y gweill i gynnig unrhyw Gytundebau Hirdymor pellach ar hyn o bryd. Byddwn yn parhau i fonitro ac adolygu’r sefyllfa a byddwn yn hysbysebu unrhyw gyfleoedd ar gyfer cytundebau pellach yn ôl y galw.
Bydd CNC yn gwneud newidiadau i’w Gynllun Gwerthu Pren ar gyfer 2017/18 ar ôl i rai Cytundebau Tymor Hir ddod i ben yn gynnar. Bydd y cytundebau hyn yn dirwyn i ben mewn ffyrdd a fydd yn effeithio gyn lleied ag sydd bosibl ar y gadwyn gyflenwi. Mae’r ffaith fod y Cytundebau Tymor Hir yn dod i ben ynghynt yn golygu y bydd rhagor o waith yn cael ei gynnig i’r farchnad agored yn ystod y flwyddyn yn unol â Chynllun Marchnata Pren cyfredol CNC. Bydd y Cynllun Gwerthu diwygiedig yn cael ei rannu â chwsmeriaid yn fuan.
Manteision
Roedd y cytundebau hyn yn cynnwys:
- Cyflenwad hirdymor gwarantedig o bren
- Cefnogaeth ar gyfer buddsoddiad yn y diwydiant pren yng Nghymru
Y broses dendro
- Bydd tendrau yn cael eu hysbysebu yn y Forestry Journal. Bydd defnyddwyr cofrestredig E-Werthiant Coed hefyd yn cael gwybod trwy E-Werthiant Coed
- Am ragor o wybodaeth ar gytundebau hirdymor cysylltwch â desg gymorth e-Werthiant
- Cyhoeddir manylion pob tendr ar y dudalen we hon